'Rhyddhau carthion i afonydd yn digwydd yn rhy aml'

  • Cyhoeddwyd
Stuart Llewellyn, cadeirydd Clwb Pysgota Llanrwst
Disgrifiad o’r llun,

Stuart Llewellyn ydy cadeirydd Clwb Pysgota Llanrwst

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod angen gwneud llawer mwy i atal carthffosydd yng Nghymru rhag lledu i afonydd a'r môr.

Mae'n dilyn achos o garthion "ofnadwy" yn cael eu gollwng i Afon Conwy yn Llanrwst wedi'r glaw trwm diweddar.

Mae dadansoddiad gan BBC Cymru o'r 1,000 o Orlifoedd Carthion Cyfun (CSOs), dolen allanol a gafodd eu monitro gan Dŵr Cymru wedi datgelu bod 30,000 o ddigwyddiadau tebyg ledled Cymru wedi bod yn 2017.

Pan fydd dŵr llonydd yn cymysgu gyda dŵr carthffosydd, bydd Dŵr Cymru weithiau'n rhyddhau'r gymysgedd i afonydd.

Oni bai am y gollyngiadau, byddai cartrefi a busnesau'n gorlifo â charthion, meddai'r cwmni.

Dywedodd Stuart Llewellyn, cadeirydd Clwb Pysgota Llanrwst, ei fod wedi gweld carthion yn cael eu rhyddhau i'r afon dair gwaith yn yr wythnos ddiwethaf.

Mae ffigyrau Dŵr Cymru ei hun ar gyfer 2017 yn dangos bod y gorlif yn y dref wedi'i ddefnyddio 110 o weithiau - am fwy na 350 awr yn ystod y flwyddyn.

Ond nid dyma'r troseddwr gwaethaf.

'Anhygoel'

Roedd gorlif ar gyrchfan traeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin yn rhyddhau carthion ar 317 diwrnod yn ystod y flwyddyn.

Fe wnaeth CSO arall yn Nhyndyrn (Tintern) yn Sir Fynwy ryddhau dŵr gwastraff ar bron i 250 achlysur.

Mewn un flwyddyn, ledled Cymru, roedd CSOs yn gweithredu am 6,800 diwrnod.

"Mae'n anhygoel," meddai Mr Llewellyn. "Mae'r rhain i fod i gael eu rhyddhau ar gyfer digwyddiadau eithriadol, dydyn nhw ddim i fod bob tro y mae'n bwrw glaw.

"Fel 'da ni'n gwybod, dydy glaw yng Nghymru ddim yn ddigwyddiad eithriadol."

Ffynhonnell y llun, Stuart Llewellyn
Disgrifiad o’r llun,

Carthion yn cael eu gollwng i Afon Conwy yn gynharach fis Mawrth

Mae'n galw ar Dŵr Cymru i wella'r cyfleusterau yn y dref, gan gynnwys cynyddu'r lle storio mewn tanciau storm.

"Mae'n hafonydd ni'n dirywio o flwyddyn i flwyddyn ac mae angen i ni ddechrau mynd i'r afael â'r materion," meddai.

Dywedodd Dŵr Cymru, fel cwmni sydd â chysylltiad agos â'r amgylchedd, ei fod "yn ymwybodol iawn o effaith ein gwaith ar ein hamgylchedd ac yn cymryd ein perfformiad amgylcheddol yn ddifrifol iawn".

Mae'r cwmni wedi dweud y bydd wedi buddsoddi £460m mewn gwasanaethau dŵr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - fel rhan o fuddsoddiadau o £2.3bn dros gyfnod o bum mlynedd hyd at ddiwedd 2020.

Mae'n cynnwys gwaith yn Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd i helpu atal dŵr rhag mynd i mewn i'r rhwydwaith carthffosydd yn y lle cyntaf.

Bydd swyddogion Pysgotwyr Llanrwst yn cyfarfod â chynrychiolwyr Dŵr Cymru ddydd Llun.