Pryder wedi i garthion 'ofnadwy' ollwng i Afon Conwy

  • Cyhoeddwyd
Carthion yn gollwng i Afon ConwyFfynhonnell y llun, Stuart Llewellyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe welwyd carthion yn gollwng i Afon Conwy ddydd Sul

Mae cadeirydd Clwb Pysgota Llanrwst wedi mynegi pryder ar ôl tynnu lluniau dros y penwythnos o garthion "ofnadwy" yn gollwng i Afon Conwy wedi'r glaw trwm diweddar.

Dywedodd Stuart Llewellyn bod carthffos yn y dref yn gorlifo i'r afon "bob tro mae'n glawio" ers rhyw bum mlynedd.

Yn ôl Dŵr Cymru, mae'r carthffosydd cyfun - sy'n cario dŵr gwastraff a all gynnwys carthion budr a dŵr glaw o doeau, gerddi a ffyrdd yn yr un bibell - wedi eu creu er mwyn gwarchod cartrefi a busnesau rhag llifogydd wedi tywydd garw.

Dywedodd llefarydd eu bod wedi cael "caniatâd ar gyfer y gorlif storm yma gan ein rheoleiddwyr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru" a bod niwed amgylcheddol yn "annhebygol".

'Cyfog gwag'

Dywedodd Mr Llewellyn, o Alltmelyd yn Sir Ddinbych: "Mae tref Llanrwst wedi ehangu ond dyw'r isadeiledd heb ehangu i ddelio â'r sefyllfa.

"Mae'r system wedi bod yn llenwi fwyfwy. Bob tro 'dwi'n mynd yno ac mae'n bwrw, mae'n digwydd.

"[Mae'r arogl] yn ofnadwy. Roedd [arolygydd Cyfoeth Naturiol Cymru] yn cael cyfog gwag, roedd mor ddrwg â hynny. Dydy'r [y gwastraff] heb ei drin o gwbl."

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym yn ymwybodol o orlif carthion cyfun i Afon Conwy o ein safle trin dŵr gwastraff yn Llanwrst. Roedd hynny oherwydd y glaw trwm diweddar yn yr ardal.

"Fel cwmni gyda chysylltiad mor agos â'r amgylchedd, rydym yn ymwybodol iawn o effaith ein gwaith ar yr ardaloedd o'n cwmpas ac rydym yn cymryd o ddifrif ein perfformiad amgylcheddol.

"Mae gorlifoedd storm fel hwn wedi eu creu i liniaru'r pwysau ar ein systemau, i warchod ein cwsmeriaid a'u cartrefi eu busnesau rhag gorlifiadau o garthffosydd."

'Newid lliw'r afon'

Dywedodd arweinydd tîm rheoli adnoddau naturiol CNC, Robert Edwards, eu bod wedi cael gwybod "am achos posib o lygredd dros y penwythnos yn Afon Conwy" ac wedi gyrru swyddog i archwilio'r ardal.

"Fe wnaethon ni ddarganfod bod dŵr arwyneb heb ei drin yn llifo i'r afon o orlif storm wedi glaw trwm yn yr ardal," meddai.

"Mae hyn yn ymateb arferol i atal gorlifo mewn cartrefi lleol ond mae'n gallu gwneud i'r afon edrych fel bod ei lliw wedi newid.

"Rydym yn annog unrhyw un sy'n gweld achos posib o lygru i ffonio ein llinell hysbysu digwyddiadau ddydd a nos... fel y gallwn ni ymateb cyn gynted â phosib."