Gŵyl i anrhydeddu y digrifwr Eirwyn Pontsiân

  • Cyhoeddwyd
Eirwyn Pontsian

Bydd gŵyl yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Nhalgarreg a'r cyffiniau yr wythnos hon i gofio digrifwr a storïwr unigryw a fu'n diddanu mewn tafarndai ac eisteddfodau ar hyd a lled Cymru.

Bu farw Eirwyn Pontsiân union chwarter canrif yn ôl.

Yn saer coed, trefnydd angladdau a wyneb y poster Gwell Llaeth Cymru na Chwrw Lloegr, bydd Gŵyl Eirwyn yn gyfle i gofio ac i ddathlu doniau presennol yr ardal.

Yn ôl un o'r trefnwyr Cen Llwyd, dyw pobl ifanc heddiw ddim yn cofio Eirwyn.

Fe fydd plant Ysgol Talgarreg yn cymryd rhan yn yr ŵyl, ac yn ôl Cen, mae'n bwysig fod y disgyblion yn cael y cyfle i brofi yr hyn roedd Eirwyn yn ei gynrychioli.

Ychwanegodd Mr Llwyd: "Pop-up comedian oedd Eirwyn. Bydde fe'n troi lan mewn 'steddfodau, a bydde fe fel pot jam a'r gwenyn yn heidio o'i amgylch."

Mae Cen Llwyd hefyd yn credu fod dylanwad Eirwyn Pontsiân ar ieuenctid yr ardal gyda chynifer o gomedïwyr yn eu plith.

'Byddai Eirwyn Pontsian yn trydar heddi'

Bydd Cennydd Jones yn arwain un o'r nosweithiau yn yr ŵyl.

Dywedodd: "Mae'n fraint enfawr. Nid mod i'n perfformio rhyw lawer y tu hwnt i ffiniau Ceredigion, ond pan dwi yn, a dwi'n nodi mod i'n dod o Bontsiân, ma pobl wastad yn dweud, 'Diawch ti'n nabod Eirwyn te!'

"Fi wastad yn lico meddwl, os fydde fe obiti'r lle heddi' bydde fe'n berson ar Twitter yn rhoi rhyw tweets bach dwl mas, a rhannu ei hiwmor cwbl unigryw e."

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Cafodd Endaf Griffiths ei eni yr un wythnos ag y bu farw Eirwyn Pontsiân a'r ddau, mae'n ymddangos, yn Ysbyty Glangwili yr wythnos honno, ar ddau begwn gwahanol yn eu bywydau.

"Falle gallen i 'weud bod ein bywydau wedi croesi unwaith" meddai Endaf, a fydd hefyd yn perfformio yn yr ŵyl.

"Yn 16 oed fe ddes i ar draws y llyfr yma o'r enw 'Hyfryd Iawn' a mwynhau y straeon doniol a dwys, oherwydd mi ro'dd y wedd yna i Eirwyn, y doniol a'r dwys, a dyna apeliodd ata i - y ffaith ei fod e'n ddyn cyflawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cennydd Jones, Cen Llwyd, Owenna Davies ac Endaf Griffiths - trefnwyr yr ŵyl yn edrych ymlaen at wythnos llawn hwyl

Yn ôl un arall o'r trefnwyr, Owenna Davies, bydd Gŵyl Eirwyn yn fodd o ddod â chenedlaethau at ei gilydd a dathlu doniau'r ardal.

"A ma' da' ni goblyn o lot o ddoniau yn yr ardal hon!" pwysleisia Owenna.

Bydd Gŵyl Eirwyn yn dechrau nos Lun gyda darlith Cofio Eirwyn Pontsiân gan Lyn Ebenezer yn Neuadd Ffostrasol.

Nos Wener bydd sioeau yn Neuadd Talgarreg gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Talgarreg, Mair Tomos Ifans, Caio Evans, Ioan Evans a Ryland Teifi.

Ddydd Sadwrn, 23 Mawrth, bydd taith fws o dan arweiniad Cen Llwyd a nos Sadwrn, Noson Gomedi gyda Cennydd Jones yn cyflwyno Ifan Tregaron, Mair Tomos Ifans, Ryland Teifi, Endaf Griffiths, Owain Davies, Iwan a Calfin, a Chlwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân.