Achos Corneli: Pêl-droediwr wedi defnyddio car fel 'arf'

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pel-droed CornellyFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr erlyniad roedd y digwyddiad yn un "brawychus" i'r criw o bobl ifanc

Fe wnaeth chwaraewr pêl-droed yrru'n fwriadol at griw o gefnogwyr ifanc a oedd wedi tynnu ei goes yn ystod gêm leol, mae llys wedi clywed.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Lee Taylor, 36, wedi defnyddio ei gar BMW fel "arf" a gyrru at y grŵp, oedd yn cynnwys plant mor ifanc â 14 oed, ym mis Ebrill 2018.

Cafodd rhai o'r plant fân anafiadau a chleisiau yn y digwyddiad yng Nghorneli, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Mr Taylor, o ardal Sandfields, Port Talbot, yn gwadu 23 o gyhuddiadau yn cynnwys gyrru'n beryglus a cheisio achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i 11 o bobl.

'Taro fel sgitls'

Dywedodd yr erlynydd Christopher Rees fod Mr Taylor, oedd yn chwarae i Glwb Pêl-droed Margam, wedi cael dadl gyda bechgyn yn eu harddegau ar ôl gadael yr ystafell newid, ar ôl i'w dîm golli o 5-0 i Gorneli.

Dywedodd Mr Rees: "Fe wnaeth Taylor yrru'n syth at y bechgyn ifanc, gan eu taro fel sgitls mewn canolfan fowlio.

"Roedd yn ddigwyddiad brawychus."

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tîm Lee Taylor wedi colli o 5-0 yn erbyn clwb Corneli ar y prynhawn dan sylw

Ychwanegodd bod Mr Taylor wedi "colli ei dymer" ac wedi mynd "ati'n fwriadol i daro'r grŵp gan ddefnyddio ei gerbyd fel arf... gyda'r bwriad o achosi anaf difrifol iddynt".

"Beth arall heblaw i achosi anaf difrifol y byddai wedi gyrru yn y modd a wnaeth?"

'Lwc pur' bod dim anaf gwaeth

Dywedodd Mr Rees fod rhai o'r bechgyn wedi cael eu taflu i fyny i'r awyr, a dywedodd mai "lwc pur" oedd hi na chafodd yr un ohonynt eu hanafu'n waeth.

Dywedodd fod un bachgen wedi llwyddo i ddal boned car Mr Taylor cyn defnyddio ei ddwrn i daro ffenestr blaen y car.

Clywodd y llys fod Mr Taylor wedyn wedi camu o'r car a pharhau i ymosod ar gyfeillion i'r bechgyn, a'i fod ar un adeg wedi ei weld yn rhoi ei fys bawd yn llygad un bachgen.

Mae Mr Taylor yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.