'Dathlwch eich gwallt gwyn'

  • Cyhoeddwyd
Marred Glynn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Marred wedi ffarwelio â'r cosi cemegol a'r twll yn y cyfri banc

Ei heglu hi'n syth i'r salon trin gwallt neu ddathlu'r broses o fynd yn hŷn? Marred Glynn Jones, o Fangor, sy'n rhannu ei phrofiad hi o wynnu gyda Cymru Fyw.

Mae gwallt gwyn yn atyniadol, yntydi?

Mi wnaeth y gwirionedd fy nharo ar fy nhalcen un p'nawn yn y salon trin gwallt a hynny dros 10 mlynedd yn ôl.

Doedd dim angen i mi eistedd o flaen drych am oriau efo cemegau lu yn cael eu hamsugno i mewn i'm croen er mwyn ceisio edrych yn ifancach.

Penderfynais y diwrnod hwnnw i ffarwelio â'r cosi cemegol a'r twll yn y cyfri banc, gan arddangos fy ngwallt gwyn i'r byd. Ac mae gwallt gwyn yn atyniadol, yntydi?

Wel, dynion efo gwallt gwyn, beth bynnag. Ond beth am y merched?

Wfft i'r Sion Blewyn Coch, Ed Sheeran. Dynion aeddfed fel Paul Hollywood, y Sion Blewyn Brith sy'n poeni am waelodion soeglyd, neu'r actor a'r yfwr coffi, George Clooney, sy'n ennyn edmygedd merched (a dynion) o bob oed.

Prin iawn, fodd bynnag, ydi'r merched hŷn efo gwallt gwyn sy'n derbyn yr un sylw. Pam hynny? Ydi merched efo gwallt gwyn yn fodau i'w hanwybyddu? Ble mae Sian Blewyn Brith?

Edrych mor ifanc â phosib cyn hired â phosib

"Pan mae merched yn cyrraedd eu pumdegau, mae dallineb yn dod ar draws dynion," meddai'r seicolegydd, Dr Mair Edwards. "Dydyn nhw ddim yn ystyried fod merched dros oed arbennig, ac sydd â gwallt yn gwynnu, yn gallu bod yn gymar iddyn nhw. Mae dewis rhywun iau fel cymar yn gwneud i ddyn deimlo'n ifancach.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Mair Edwards

"Ac o edrych ar ein cymdeithas orllewinol/Americanaidd fe welwn, dros gyfnod o o leia' 50 mlynedd, fod ieuenctid yn cael ei eilun addoli.

"Does dim lle i ferched hŷn mewn cylchgronau, ffilmiau, rhaglenni. Ac o ganlyniad mae merched yn awyddus i edrych mor ifanc â phosib cyn hired â phosib. Ond, yn eu brwdfrydedd i aros yn ifanc ac i liwio eu gwalltiau, maen nhw'n tanseilio'r doethineb a'r profiadau maen nhw'n eu cael o'r fraint o fod yn hŷn."

Er hynny, mae Mair yn teimlo fod newid yn digwydd yn raddol gyda chymorth merched amlwg yn eu maes fel Helen Mirren a Judi Dench. Ac fe wnaeth Mair ei hun roi'r gorau i liwio'i gwallt ar ôl cael diagnosis o gancr y fron naw mlynedd yn ôl.

"Mi roedd yn benderfyniad eitha' ymwybodol - mi wnes i ddweud, na, dwi ddim am roi sgrwtsh yn fy nghorff ac ar fy nghorff. Roedd o'n teimlo fel y peth iawn i'w wneud ac mae'n rhaid i bobl fy nerbyn i fel ydw i neu ddim . . . Does dim rhaid i ni ffitio i mewn i focsys rhywun arall."

Ond mae nifer fawr o ferched yn parhau i ddychryn wrth weld gwelltyn gwyn yn ymddangos ac yn heidio i'r salon trin gwallt i'w liwio.

Ffasiynol

"Mae lliwio gwallt yn dipyn o ymrwymiad," meddai Bethan Wyn Hennessey, cyd-berchennog Y Lolfa Wallt ym Miwmares ar Ynys Môn.

"Unwaith mae rhywun yn dechrau lliwio, mae'n rhaid i chi fynd i'r lle gwallt bob rhyw chwech wsnos. Ac wrth gwrs, mae'n cymryd amser i liwio gwallt.

"Mae gwallt arian/gwyn yn ffasiynol iawn ar hyn o bryd ac mae merched ifanc a chanol oed yn dweud wrtha' i eu bod nhw isho gwallt o'r lliw yma.

"A dwi wedi llwyddo'n ddiweddar i berswadio rhai o fy nghleientiaid hŷn i stopio rhoi lliw ar eu gwallt. Dwi'n colli arian wrth roi'r cyngor hynny ond yr hyn sy'n bwysig i mi ydi fod gwallt cleient yn gweddu iddi hi neu fo."

Hyderus

Disgrifiad o’r llun,

Sian Northey: "Mae o wedi cymryd amser i mi deimlo'n hyderus i'w wisgo'n rhydd ac yn llwyd."

Un sydd wedi penderfynu rhoi'r gorau i'r lliw ydi'r bardd a'r awdur, Sian Northey.

"Nes i ond dechra'i lifo oherwydd bod y genod wedi swnian arna i.

"Ond mi oedd Gwen [ei merch] yn fyfyriwr trin gwallt adag honno felly roedd o'n cael ei wneud yn dda ac yn rhad yn y coleg, ac mi oeddwn i'n licio fy highlights.

"Wedyn nes i ddechrau gneud fy hun a doedd o ddim yn edrych cystal, ac mi oeddwn i'n teimlo bod fy ngwallt i'n teneuo. A chan bod gwallt llwyd yn rhyw lun o ffasiynol roedd o i weld yn amser da i stopio.

"Mae o wedi cymryd amser i mi deimlo'n hyderus i'w wisgo'n rhydd ac yn llwyd - ddim i fyny mewn rhyw fath o fyn. Ac mi es i'n goch reit lachar cyn rhoi gora iddi hi'n llwyr, rhyw deimlo mai dyna fy nghyfle ola' i neud hynny.

"Ond mi fyddai'n meddwl weithia roi rhyw streipen binc neu werdd neu rwbath - rhyw fath o ddatganiad mai fel hyn, gwallt llwyd, dw i isio bod, nid jest mod i'n rhy ddiog/ddiofal o fy ymddangosiad."

Disgrifiad o’r llun,

Dydi Marred heb estyn am y botel lliw ers 10 mlynedd

Onid yr hyn sydd ei angen arnom i gyd wrth inni heneiddio ydi'r hyder i ddathlu ein profiad o fywyd ac i wneud yr hyn sy'n ein gwneud yn hapus?

Os nad ydych am barhau i ddiodde' mwy o gemegau ar eich pen ac oriau yn y salon gwallt, rhowch y botel lliw heibio, a sylweddolwch ei bod hi'n bosib i chi fod yn hyderus, diddorol a rhywiol efo gwallt gwyn.

Hefyd o ddiddordeb: