Y plantos pengoch

  • Cyhoeddwyd
redheadsFfynhonnell y llun, Thinkstock

Os ydych chi'n byw yng Nghymru, mae 'na siawns gweddol bod yna gochyn neu gochen yn eich bywyd.

Ond o ble mae'r lliw coch yn dod? Ac er gwaetha'r sibrydion i'r gwrthwyneb, ydy hi'n bosib bod y genyn gwallt coch yn ffynnu yng Nghymru? Nia Davies fu'n ymchwilio:

O ble mae'r coch yn dod?

Roedd fy mab yn hollol foel pan gafodd ei eni. Pan dyfodd y dwffyn eirinen wlanaidd cyntaf ar ei gorun, rhyfeddais ar y wawr gochlyd oedd arno.

Cymeriad o gochen oedd mam fy ngŵr ond wnaeth yr un o'i phedwar plentyn etifeddu'r un blewyn coch. Roedd gen i ewythr annwyl â gwallt coch ac mae gan un o fy nghefndryd i e hefyd (ynghyd â chasgliad trawiadol o frech yr haul).

Ond ar ein haelwyd ni, pryd tywyll oedd gan bawb - oni bai am y cwrci marmalêd wnaeth ein mabwysiadu ni un tro.

O ble felly daeth ein cochyn bach ni?

Mae'n gwestiwn sydd hefyd yn drysu'r dieithriaid sy'n ein stopio ar y stryd er mwyn edmygu lliw gwallt ein plentyn. Yn ogystal â theyrngedau caredig daw hefyd gipolwg crychlyd i gyfeiriad ein pennau. A'r un cwestiwn sy'n dilyn bob tro. "Ond o ble mae'r coch yn dod?"

Ffynhonnell y llun, David Stubbs
Disgrifiad o’r llun,

Cochen gudd a chochyn go iawn

Felly, ar ôl tair blynedd o godi ysgwyddau, es ati i ymchwilio, ac rwy' wedi dod o hyd i'r ateb o'r diwedd: rwyf i a fy ngŵr yn 'gochion cudd'.

Genyn gwallgof

Er bod 'cochion cudd' yn cario'r genyn gwallt coch nid yw'n amlygu ei hun ynddyn nhw. Yr enw gwyddonol am y genyn gwallgof yma yw MC1R (melanocortin 1 receptor) a'r disgrifiad Saesneg ohono yw recessive. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r ddau riant gario'r genyn er mwyn ei basio ymlaen. Wedyn, mae siawns o 25 y cant bydd gan eu plentyn wallt coch.

Ac mae'r plant hynny'n aelodau o glwb egsgliwsif iawn. Dim ond tua 2% o'r bobl yn y byd sydd â gwallt coch.

Mae rhai ymchwilwyr ysmala hyd yn oed yn honni mai gostwng (er nad diflannu'n gyfan gwbl) fydd nifer y bobl yn y byd gyda gwallt coch wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.

A dyna sy'n fy nrysu i fwyaf. Ta beth yw'r sibrydion, rhywsut rwy'n amau i'r gwrthwyneb. Efallai eich bod chi'n cydweld?

Cysylltiad Celtaidd

Oherwydd rwy'n tyngu fy mod yn gweld gwallt coch ym mhob man. Lliw copr, gwin, sinsir, sgarlad neu fachlud; browngoch, fflamgoch neu oren. Ar y sgrin fawr, ar y teledu, yn y siop, yn y parc…

Ble bynnag ydw i rwy'n ffeindio fy hun yn sylwi ar y blewyn cochlyd byrraf o bellter. Yn syml, gallai hynny fod oherwydd fy mod fy hun yn fam i gochyn. (Mae'n bendant fod yna gysylltiad greddfol rhyngddon ni sy'n ddigon ffodus i gael cochyn neu gochen yn ein bywydau.)

Wrth gwrs, mae'r cysylltiad rhwng y Celtiaid a gwallt coch yn hen gyfarwydd. Ac er bod y mathau o ymchwil a'r ffigurau'n amrywio, mae'n debyg petai yna gynghrair rhyngwladol ar gyfer gwallt coch, byddai'r Celtiaid yn cipio'r goron driphlyg bob tro.

Beth bynnag yw'r ffeithiau mae un darn o dystiolaeth anecdotaidd yn enwedig sy'n gwneud i fi wenu. A hynny bob dydd o'r wythnos dwi'n hebrwng fy mab i Ysgol Gynradd Gymraeg Glan Ceubal yng Nghaerdydd. Yno yn y meithrin mae'n bosib gweld dim llai na phump copa coch yn chwarae'n braf, sef 25 y cant o gyfanswm disgyblion y dosbarth. Cyd-ddigwyddiad hapus ond annarferol? Neu, a ydy'n wirioneddol bosib bod gwallt coch ar gynnydd yng Nghymru?

Tymer tanllyd

Ffynhonnell y llun, Nia Davies
Disgrifiad o’r llun,

Gwallt lliw dail yr Hydref

Erbyn heddiw mae blewiach ein bachgen yn fop godidog lliw dail yr Hydref sy'n denu sylw bron yn ddyddiol. Mae'n rhaid cyfaddef bod 'na fymryn o bryder am y math o sylw allai ddod gan gyfoedion llai caredig gydag amser.

Roedd carrot top, ginger nut a Duracell yn rhai o'r enwau oedd yn cael eu defnyddio i fychanu ar y iard chwarae o bryd i'w gilydd pan oeddwn i'n tyfu i fyny.

Ond mae pethau wedi newid a diolch i sêr fel Damian Lewis, Ed Sheeran, Lilly Cole a Karen Gillan sy'n ymfalchïo mewn bod yn gochion go iawn, 'dyw cael gwallt coch erioed wedi bod mor cŵl. Yn wir, mae lliw gwallt coch o botel yn gwerthu mwy nag unrhyw liw arall.

A ta beth, dwi ddim yn meddwl bod angen poeni'n ormodol. Mae 'na dystiolaeth sy'n cysylltu'r genyn gwallt coch gyda lefel uwch o adrenalin yn y corff. Ac efallai'n wir bod tinc o wirionedd yn y theori sy'n honni bod y lliw arbennig yma o wallt gyfystyr â thymer tanllyd. O beth dwi 'di gweld, bydd yn rhaid i unrhyw fwlis droedio'n ofalus!

Ac os fydd e'n tyfu i fod yn chwaraewr rygbi cystal â chochyn enwoca'r gêm, Neil Jenkins, o leia' bydd un rheswm arall gan bobl i'n stopio ni ar y stryd!