Dim newid i ranbarthau rygbi Cymru yn nhymor 2019/20
- Cyhoeddwyd
Bydd pedwar rhanbarth rygbi Cymru yn aros yr un fath ar gyfer y tymor nesaf, yn ôl datganiad gan y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB).
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn trafodaethau gan y bwrdd i uno'r Scarlets a'r Gweilch - opsiwn a oedd yn peri pryder i nifer o chwaraewyr a chefnogwyr.
Dywedodd datganiad y PRB y bu cefnogaeth i'r syniad o uno dau ranbarth yn wreiddiol, ond bod y clybiau dan sylw wedi datgan nad oedd y syniad hyd yn oed yn opsiwn bellach.
Nid oes yna gynlluniau pendant ar gyfer beth fydd yn digwydd i'r clybiau rhanbarthol wedi tymor 2019/20.
Cytunodd y PRB ei bod hi'n angenrheidiol adeiladu ar fomentwm Camp Lawn Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a chyfraniad sylweddol y rhanbarthau er budd rygbi yng Nghymru.
Daeth cynrychiolydd o bob un o'r rhanbarthau presennol a dau gynrychiolydd o Undeb Rygbi Cymru ynghyd gyda chadeirydd annibynnol i drafod.
Nododd y bwrdd yn y cyfarfod ei fod yn bwysig eu bod oll yn unfrydol, gan obeithio y byddai hynny hefyd yn cyflwyno rygbi rhanbarthol a chenedlaethol Cymru fel ospiwn atyniadol i fuddsoddwyr.
Cytunodd y PRB yn eu cyfarfod:
Bod angen pedwar tîm proffesiynol er mwyn sicrhau llwyddiant cynaliadwy i dîm cenedlaethol Cymru;
Bod y pum tîm (y rhanbarthau a'r tîm cenedlaethol) angen bod yn llwyddiannus ar ac oddi ar y cae;
Bod y PRB yn gytûn yn yr hyn sydd orau i rygbi proffesiynol yng Nghymru, yn eu barn nhw.
Er bod y bwrdd wedi cefnogi'r syniad i uno'r Scarlets a'r Gweilch a chreu rhanbarth newydd yn y gogledd yn y gorffennol, mae'r syniad bellach wedi ei ddiystyru gan y clybiau dan sylw.
Yn ôl y datganiad: "Gobeithir bod yr emosiwn sydd wedi bod ynghlwm ag ystyried yr opsiynau i uno clybiau yn gallu cael ei drosglwyddo i gefnogi timau proffesiynol Cymru, gan helpu creu dyfodol cynaliadwy i'r gêm yng Nghymru."
Yn sgil cadw'r rhanbarthau yr un fath, gall cyllidebau a chytundebau chwaraewyr gael eu cwblhau.
Dywedodd y PRB ei fod hefyd yn awyddus i gefnogi ffyrdd o ariannu'r gêm gymunedol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2019