Cynnal angladd y gwleidydd Paul Flynn yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Paul FlynnFfynhonnell y llun, ADRIAN DENNIS
Disgrifiad o’r llun,

Paul Flynn yn ymgyrchu dros yr hawl i ddefnyddio canabis am resymau meddygol ym mis Chwefror 2018

Mae angladd y cyn-Aelod Seneddol Llafur Paul Flynn wedi cael ei gynnal yng Nghasnewydd.

Ymhlith y galarwyr yn yr Eglwys Gadeiriol oedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ac Arweinydd y Blaid Llafur, Jeremy Corbyn.

Bu farw Mr Flynn, oedd wedi cynrychioli etholaeth Gorllewin Casnewydd ers 1987, fis diwethaf ar ôl salwch hir.

Dywedodd Mr Corbyn fod Mr Flynn yn Aelod Seneddol oedd â "barn annibynnol bendant" ac yn wleidydd "heb ei hudo gan rym".

Roedd yr AS 84 oed wedi cyhoeddi fis Hydref diwethaf y byddai'n ymadael â Thŷ'r Cyffredin mor fuan â phosib oherwydd i arthritis rhiwmatoid ei gadw yn ei wely'n barhaol.

Yn ystod y gwasanaeth, fe wnaeth nifer o gyfranwyr sôn am ymgyrchoedd yr oedd Mr Flynn yn eu cefnogi gan gynnwys ei wrthwynebiad i ryfeloedd, a'i gefnogaeth i ddatganoli a'r iaith Gymraeg.

Dywedodd Jayne Bryant, AC Gorllewin Casnewydd, fod Mr Flynn yn gawr o ran y mudiad Llafur ac yn ymgyrchydd brwd.

"Fe gafodd ei siapio gan ei gefndir a'i fagwraeth yn ardal Grangetown, Caerdydd yn y 1930au lle roedd tlodi ymhobman."

Dywedodd na wnaeth Mr Flynn "fyth anghofio'r adegau anodd, caled ond onest bywyd dosbarth gweithiol".

Ychwanegodd ei fod hefyd wedi bod mor falch o gael ei dderbyn i'r Orsedd fel Paul Y Siartwyr, gan ddweud fod aberth y siartwyr yn "anogaeth gyson" i'r diweddar AS.