Dyn yn gorffen dringo Pen y Fan 365 gwaith mewn blwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Aberhonddu wedi dringo mynydd uchaf de Cymru am y 365ain tro mewn blwyddyn.
Mae Des Lally, 43, wedi bod yn cerdded i gopa Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog bron a bod bob dydd am y flwyddyn ddiwethaf.
Fe wnaeth hynny beth bynnag fo'r tywydd - eira mawr, gwyntoedd o hyd at 80mya, glaw trwm a thywydd poeth a sych - er mwyn codi arian i ddwy elusen.
Oherwydd nad oedd wedi gallu gwneud y daith pob dydd, mae Mr Lally wedi gorfod gwneud ei ffordd i'r copa fwy nag unwaith mewn diwrnod ar rai achlysuron.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Mr Lally wedi codi dros £40,000 i elusennau Help for Heroes a Cancer Research UK.
Dywedodd bod y ddwy elusen yn golygu llawer iddo - gyda'i dad wedi treulio 25 mlynedd yn y fyddin a'i ddau riant wedi'u heffeithio gan ganser - ac mai hynny oedd yr unig gymhelliant oedd angen arno.
"Pan dy'ch chi'n troi fyny am naw o'r gloch nos, mae'n dywyll, mae gwyntoedd rhwng 70 ac 80mya, mae'n tywallt y glaw, ry'ch chi ar ein pen eich hun, chi'n meddwl 'dyma ni'n mynd eto'," meddai.
"Ond yr unig beth sydd angen gwneud yw meddwl am y rhesymau chi'n gwneud e a ry'ch chi allan o'r car ac ar eich ffordd yn ddigon sydyn."
Fe wnaeth Mr Lally ddringo'r 500m o'r Storey Arms i gopa Pen y Fan dair gwaith ddydd Gwener er mwyn sicrhau mai dim ond unwaith y byddai'n gorfod gwneud y daith ddydd Sadwrn.
"Mae hi wedi bod yn wych, ac rydw i wedi mwynhau pob eiliad ohono," meddai.