Pro 14: Gweilch 29-20 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Dan EvansFfynhonnell y llun, Lluniau Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dan Evans yn sgorio un o'i bedwar cais i'r Gweilch yn eu buddugoliaeth dros y Dreigiau

Roedd yna bedwar cais i Dan Evans wrth i'r Gweilch ddod yn eu holau i guro'r Dreigiau yn ail ddarbi rhanbarthol rygbi Cymru'r penwythnos hwn.

Y cefnwr 30 oedd seren y gêm wrth iddo sicrhau'r pwynt bonws ar ei ben eu hun.

Roedd hi'n dalcen caled i'r Dreigiau, sydd heb ennill ar y Liberty ers 2010, am fod pump o chwaraewyr Cymru yn ôl yn rhengoedd y tîm cartref.

Fe wnaeth y clo Bradley Davies a'r blaenasgellwr rhyngwladol Justin Tipuric gyfuno i geisio sicrhau cais cynta'r gêm i'r Gweilch, gyda Tipuric yn gosod y bêl o dan y pyst.

Ond fe benderfynodd y dyfarnwr fideo fod y bêl wedi mynd ymlaen o ddwylo Davies yn gynharach yn y symudiad.

Daeth cais agoriadol y gêm, a phwyntiau cynta'r tîm cartref, wedi saith munud, gyda Dan Evans yn croesi'r llinell, a'r maswr Luke Price yn ychwanegu'r trosiad i sicrhau'r saith pwynt llawn i'r Gweilch.

Er i'r Gweilch barhau i gamu'n nes eto at linell gais y Dreigiau daeth pwyntiau'r cyntaf yr ymwelwyr diolch i ryng-gipiad gan y mewnwr Rhodri Williams, wnaeth redeg hyd y cae am eu cais cyntaf, a Jason Tovey yn trosi.

1,000 o bwyntiau i Tovey

Fe estynnodd y Dreigiau eu mantais diolch i gic gosb lwyddiannus gan Jason Tovey o flaen y pyst,.

Gyda hynny fe wnaeth Tovey basio'r trothwy o sicrhau 1,000 o bwyntiau i'r rhanbarth.

Parhau i bwyso gwnaeth y Dreigiau gyda Hallam Amos yn croesi ar gyfer yr ail gais wyth munud cyn yr hanner, gyda Tovey unwaith eto'n sicrhau'r pwyntiau llawn, a'r sgôr yn 7-17 i'r Dreigiau.

Fe leihaodd Liam Price y bwlch i saith pwynt ychydig cyn yr hanner gyda chic gosb i'r Gweilch, wedi i wyth blaen y Dreigiau gael eu cosbi yn y sgrym.

Dechreuodd y Gweilch daro'n ôl yr ail-hanner gyda'r Gweilch yn ymosod yn hanner yr ymwelwyr, a Dan Evans yn y tir agored yn cael ei ail gais.

Er i Jason Tovey ymestyn mantais y Dreigiau i 20 pwynt ychydig wedi hynny, daeth y Gweilch yn gyfartal diolch i drydydd cais Dan Evans o'r prynhawn, cyn i Liam Price lwyddo gyda'r trosiad.

A doedd gorchest Evans ar y cae ddim ar ben, gyda'r pedwerydd cais, a phwynt bonws i'r Gweilch, yn dod ugain munud o'r diwedd.