Adar yn ysbrydoli cynlluniau newydd Pier Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Bydd gan wylwyr adar le pwrpasol i edrych ar ddrudwy ar Bier Brenhinol Aberystwyth fel rhan o gynlluniau i'w adnewyddu.
Mae penseiri wedi gwneud cynlluniau i'r pier - yr hynaf o'i fath yng Nghymru - fydd yn cynnwys platfform arbennig sy'n rhoi'r cyfle i ymwelwyr wylio drudwy'n ffurfio cymylau mawr du yn yr awyr.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r pier wedi denu ymwelwyr ar draws y byd oherwydd tuedd dros 50,000 o ddrudwy i gasglu a nythu yno.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi'r golau gwyrdd i gynlluniau Hughes Architects, fydd hefyd yn cynnwys creu ardal chwarae dan do.
Cafodd Pier Brenhinol Aberystwyth ei agor yn 1865.
Bu'n rhaid iddo gael ei ailadeiladu flwyddyn ar ôl ei agor yn dilyn stormydd.
Yn ddiweddar roedd pryder y byddai'n rhaid cau'r pier am fod stormydd wedi effeithio busnesau yno.
Mae'r adeilad rhestredig Gradd II yn gartref i nifer o fusnesau bach, gan gynnwys clwb nos, arcêd, tafarn a bwyty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2016