AS wnaeth ffugio treuliau mewn perygl o golli ei swydd

  • Cyhoeddwyd
Chris Davies AS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Chris Davies ei ethol fel AS ar gyfer Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 2015

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol yn wynebu'r posibilrwydd o golli ei swydd wedi iddo gyfaddef hawlio treuliau ffug.

Fe wnaeth Chris Davies, 51, gyfaddef yr wythnos diwethaf ei fod wedi cyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.

Dywedodd llefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow y bydd deiseb yn cael ei hagor wedi iddo gael ei ddedfrydu.

Byddai isetholiad yn cael ei gynnal petai 10% o etholwyr Mr Davies yn arwyddo'r ddeiseb.

Y gred ydy y byddai'n rhaid i 5,300 o bobl ei harwyddo i hynny ddigwydd.

Ond mae'n debyg y bydd y broses yn cael ei oedi os y bydd etholiad cyffredinol.

Cafodd Mr Davies ei ethol fel Aelod Seneddol ar gyfer Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 2015.

Fe blediodd yn euog yn Llys Ynadon Westminster fore Gwener ddiwethaf, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu mewn Llys y Goron.

Nid oedd Mr Davies yn gallu gwneud sylw ar y mater.