Chris Davies AS yn pledio'n euog i hawlio treuliau ffug

  • Cyhoeddwyd
Chris Davies MPFfynhonnell y llun, Alfred Collyer/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Fe blediodd Chris Davies yn euog wrth ymddangos yn Llys Ynadon Westminster fore Gwener

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o hawlio treuliau ffug.

Fe wnaeth Chris Davies, 51, gyfaddef ei fod wedi cyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.

Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol ar gyfer Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 2015.

Fe blediodd yn euog yn Llys Ynadon Westminster fore Gwener, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu mewn Llys y Goron.

Hwn yw'r erlyniad cyntaf o'i fath o dan y Ddeddf Safonau Seneddol.

Ym mis Mawrth 2016 fe hawliodd Davies dreuliau drwy ddefnyddio anfoneb ffug, er ei fod yn ymwybodol ei fod yn gamarweiniol.

Roedd yr ail gyhuddiad yn ymwneud â chyflwyno gwybodaeth ffug a chamarweiniol ym mis Ebrill 2016.

Clywodd ynadon ei fod wedi creu dwy anfoneb ffug, un am £450 a'r llall am £250.

Roedd yr arian yn cael ei hawlio er mwyn talu am luniau a dodrefn ar gyfer swyddfa yn ei etholaeth.

Dywedodd Thomas Forster, ar ran ar amddiffyniad, fod yr achos yn enghraifft o flerwch ofnadwy wrth gadw cyfrifon ac mai Davies ei hun oedd yn gyfrifol.

Ychwanegodd nad oedd Davies wedi ei ysgogi gan "elw personol" ond fod y system hawlio treuliau yn anodd ei ddeall.

Dywedodd Mr Forster fod Davies wedi ad-dalu £450, a na chafodd yr ail hanfoneb ei anfon.

Clywodd y llys ei fod eisoes wedi dweud wrth lefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow o'i fwriad i bledio'n euog.