Taflenni amlieithog i hyrwyddo addysg Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Logo Rhieni Dros Addysg Gymraeg

Bydd grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn dosbarthu taflenni amlieithog am addysg Gymraeg i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd.

Y bwriad yw eu rhannu yn y naw o'r prif ieithoedd sy'n cael eu siarad yng Nghaerdydd, sef Arabeg, Bengali, Cwrdeg, Farsi, Hindi, Pwnjabi, Pwyleg, Somali ac Urdu.

Mae'r taflenni'n adnodd ychwanegol i ffilm fer yn rhannu profiadau disgyblion a rhieni o addysg cyfrwng Cymraeg - prosiect ar y cyd rhwng RhAG, Ymgyrch Tag a chwmni Orchard, gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru.

Dyma'r Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd cyntaf erioed, a gobaith y trefnwyr yw "dathlu amrywiaeth ieithyddol a'r ffordd aml-haenog, amlieithog mae pobl yn defnyddio ieithoedd bob dydd".

'Cymraeg yn perthyn i bawb'

Yn ôl Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, Wyn Williams, mae'r "dyhead i weld plant o bob cefndir yn derbyn addysg Gymraeg a fu mor greiddiol i'r ymgyrch i sefydlu Ysgol Hamadryad yn ardal Grangetown a Thre-biwt" wedi ysbrydoli'r taflenni newydd.

"Ein prif neges felly yw bod y Gymraeg yn perthyn i bawb sy'n dewis byw yng Nghymru," meddai.

"Hyderwn y bydd y taflenni a'r ffilm fel pecyn cyfannol yn fodd o ddathlu hynny ac yn ein galluogi i rannu neges gadarnhaol am yr iaith fel pont i gysylltu diwylliannau a chreu'r teimlad o berthyn.

"Rydym hefyd yn gobeithio y byddant yn fodd o ddeffro chwilfrydedd rhieni trwy bwysleisio bod dewis arall ar gael iddynt o ran addysg eu plant a bod addysg Gymraeg yn agored ac ar gael i bawb."