Ymchwilio i farwolaeth 'anesboniadwy' dyn yn Ninbych

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Newydd, DinbychFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Newydd brynhawn Mawrth

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dyn mewn tŷ yn Ninbych.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Newydd am 12:37 ddydd Mawrth wedi adroddiad bod dyn wedi cael anafiadau difrifol.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Neil Harrison bod dyn lleol wedi marw yn y fan a'r lle, a bod ei deulu a'r crwner wedi cael gwybod.

Ychwanegodd bod "y farwolaeth, ar hyn o bryd, yn cael ei thrin fel un heb esboniad", a bydd swyddogion heddlu yn yr ardal ddydd Mercher wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae disgwyl y bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yn ystod y dydd.