Y Gynghrair Genedlaethol: Ebbsfleet 4-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Wrecsam o ennill y Gynghrair Genedlaethol yn ymddangos ar ben wedi iddyn nhw gael eu trechu oddi cartref yn Ebbsfleet ddydd Sadwrn.
Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 10 munud wedi i gapten Wrecsam, Shaun Pearson roi'r bel i'w rwyd ei hun.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r ymwelwyr wrth i Michael Cheek sgorio ddwywaith i Ebbsfleet ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Fe lwyddodd Wrecsam i daro 'nôl ar ddechrau'r ail hanner, gyda Stuart Beavon yn rhwydo yn dilyn gwaith da gan Paul Rutherford.
Roedd hi'n argoeli'n ddiweddglo diddorol wedi i Pearson sgorio i'r rhwyd cywir gyda llai na 10 munud i fynd, ond fe lwyddodd Ebbsfleet i sicrhau'r fuddugoliaeth gyda gôl gan Gozie Ugwu yn y munudau olaf.