Dileu tollau i deithwyr ar Bont Cleddau yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Mynediad Pont Cleddau

Mae tollau Pont Cleddau wedi cael eu dileu Iau, a hynny am y tro cyntaf ers eu cyflwyno yn 1975.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi grant blynyddol o £3m i Gyngor Sir Penfro er mwyn talu am gostau cynnal a chadw, gyda thaliad ychwanegol i gael gwared ar y tollbyrth ac isadeiledd y bont.

Mae'r cytundeb rhwng y llywodraeth a'r awdurdod lleol yn parhau am 20 mlynedd, cyn bod yna adolygiad o'r trefniant.

Ond mae rhai wedi codi pryderon nad oes yna sicrwydd y bydd y gefnogaeth ariannol yn parhau yn y tymor hir.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r cerbydau cyntaf i groesi'r bont yn ddi-dâl wedi i'r drefn newydd ddod i rym am 14:30

Fe ddefnyddiwyd y Bont am y tro cyntaf gan draffig ar 20 Mawrth 1974.

Roedd yna ddamwain ddychrynllyd wrth adeiladu'r bont ar 2 Mehefin 1970 lle bu farw pedwar adeiladwr pan syrthiodd rhan o'r bont oedd yn cael ei gosod yn ei lle yn ystod y gwaith adeiladu.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddefnyddiwyd y Bont gan draffig am y tro cyntaf yn 1974

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates ei fod yn "hyderus y bydd cael gwared ar y tollau yn rhoi hwb i dwf yr economi yn lleol, yn cysylltu busnesau a chymunedau'n well ac yn ei gwneud hi'n haws ac yn rhatach i bobl deithio i fanteisio ar gyfleoedd gwaith o ansawdd uchel."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cynnig "bargen hael" i'r Cyngor.

Bydd 26 o staff yn cael eu heffeithio gan y newidiadau. Fe fydd wyth aelod o staff yn cael cynnig pecyn diswyddo, gydag aelodau eraill o staff yn symud i swyddi eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Does dim tollau mwyach i groesi'r bont am y tro cyntaf mewn 44 o flynyddoedd