Galw ar y llywodraeth i beilota cymhwyster Cymraeg newydd
- Cyhoeddwyd
Mae bwriad Cymdeithas yr Iaith i gyflwyno cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl yng Nghymru wedi derbyn cefnogaeth arbenigwyr addysg.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu'r peilot, fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd.
Bydd Cymraeg Ail Iaith yn dod i ben pan ddaw'r cwricwlwm newydd i rym yn 2022.
Yn ei le, bydd un continwwm o ddysgu'r iaith - a fydd yn golygu y bydd un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl.
Daw penderfyniad y llywodraeth i newid y drefn yn dilyn argymhellion yr Athro Sioned Davies a gafodd eu cyhoeddi yn 2013.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi cymhwyster Cymraeg enghreifftiol newydd mewn digwyddiad yn y Senedd yr wythnos nesaf.
Mae cyhoeddi'r cymhwyster yn dilyn bron i flwyddyn o drafodaethau gan weithgor o arbenigwyr.
Dywedodd Gareth Pierce, cyn-brif weithredwr y corff arholi CBAC, fod y "gwaith sydd wedi ei gyflawni yn gam pwysig tuag at ymateb i'r her o ddarparu cyfle i bob un o'n pobl ifanc ddatblygu'n llawn o ran eu sgiliau yn y Gymraeg".
"Mae'n hanfodol nawr bod ein cyfundrefn addysg yn ymateb yn egnïol, efallai trwy sefydlu darpariaeth beilot er mwyn treialu ac ennyn hyder o ran gwireddu'r posibiliadau," meddai.
Mae'r gyn-athrawes Gymraeg yn Ysgol Penglais, Sandra Morris Jones, hefyd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu cynigion Cymdeithas yr Iaith.
"Nid ar chwarae bach mae ceisio creu miliwn o siaradwyr [Cymraeg erbyn 2050]," meddai. "Rydym yn gwbl o ddifrif am hyn.
"Ni ddylai'n hieuenctid ddisgwyl dim llai. Maent yn haeddu'r gorau wrthym."
'Amserlen hynod araf'
Mae Cymwysterau Cymru wedi datgan y bydd newidiadau i gymwysterau er mwyn adlewyrchu'r cwricwlwm newydd, gyda'r disgyblion cyntaf yn sefyll arholiadau'r cymwysterau newydd yn 2027.
Ond dywedodd Mabli Siriol, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, bod amserlen y llywodraeth yn "hynod araf".
"Mae angen peilot o'r cymhwyster cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cyflawni'r gwelliant gorau posibl i'r iaith.
"Oherwydd y system bresennol, mae tua 26,000 o bobl ifanc yn colli allan ar ruglder yn y Gymraeg bob blwyddyn. Er gwaethaf dros ddegawd o ddysgu'r Gymraeg fel pwnc felly, maen nhw'n cael eu hamddifadu o allu i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Ni all y Gymraeg, Cymru na'r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc fforddio parhau â'r system yma am flynyddoedd lawer i ddod."
Cymhwyster yn gyfraniad 'diddorol'
Dywedodd datganiad gan Lywodraeth Cymru: "Mater i Gymwysterau Cymru ydy rheoleiddio cymwysterau.
"Ar hyn o bryd maent yn casglu barnau a syniadau oddi wrth amrywiaeth o randdeiliaid cyn argymell y cymwysterau fydd eu hangen i gefnogi'r cwricwlwm newydd. Bydd angen i'r rhain fod ar gael erbyn mis Medi 2025.
"Mae cyfraniad Cymdeithas yr Iaith yn ddiddorol o fewn cyd-destun y cwricwlwm newydd ag un continwwm i'r Gymraeg.
"Fodd bynnag, mae'n anodd gweld sut gellir cyflwyno unrhyw gymhwyster newydd mewn ffordd deg a chyfartal cyn cyflwyno'r cwricwlwm yn genedlaethol."