Ddylech chi alw rhywun yn 'ti' neu 'chi'?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pa un ydych chi'n ei ddefnyddio - ti neu chi? Mae'r ymateb yn gymysg

'Sut wyt ti?', 'Shwd y' chi?' Pa ffurf o gyfarch fyddi 'di', neu 'chi', yn ei ddefnyddio?

Mae'r defnydd o 'ti' a 'chi' yn ddiddorol iawn yng Nghymru ac mae rhai'n rhagweld bod y defnydd o 'chi' ar gyfer person unigol am ddiflannu yn y dyfodol wrth i lai a llai ohonom ni ei ddefnyddio.

Bron yn ddieithriad, ganrif yn ôl roedd plant Cymraeg eu hiaith i gyd yn cyfeirio at eu rhieni a phobl hŷn fel 'chi'. Weithiau, roedd cyplau priod hyd yn oed yn galw 'chi' ar ei gilydd.

Ond mae pethau wedi ac yn newid ac mae'r defnydd o 'ti' a 'chi' wedi newid yn arw gyda 'ti' yn cael ei ddefnyddio llawer iawn mwy bellach.

Mae'n debyg bod rhieni'r unfed ganrif ar hugain eisiau i'w plant eu galw'n 'ti' er mwyn bod yn nes atynt, yn glosiach ac yn fwy o ffrindiau.

Ond mae rhai pobl hŷn wedyn yn teimlo'n anghyfforddus pan fo rhywun llai na hanner eu hoed yn eu galw'n 'ti' gan awgrymu mai diffyg parch neu anwybodaeth sydd y tu ôl i hynny.

Ti neu chi?

Ai 'ti' ydy Mam a 'chi' ydy Dad? Ydych chi'n galw 'chi' ar eich cymar neu ffrind gorau? Neu ydy pawb yn 'ti'?

Rhannwch eich profiadau drwy lenwi'r ffurflen neu e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk