Y ddynes o'r Wyddgrug sy'n casglu arian tra'n curo canser

  • Cyhoeddwyd
Grace Parry
Disgrifiad o’r llun,

Mae Grace yn gwisgo wig wedi ei wneud o wallt go iawn ar adegau

Yn 19 oed, doedd Grace Parry o'r Wyddgrug ddim wedi meddwl llawer am ganser.

Roedd hi'n ddynes ifanc llawn egni, yn treulio amser gyda'i ffrindiau a'i thîm cheerleading ym Mwcle. Yna daeth y diagnosis.

"Mis Ionawr o'n i'n y gwaith yng Nghaer ac roedd gen i boen yn fy chest ac es i at y doctor," meddai.

"Roedden nhw 'di gwneud sgans a phetha' fel 'na, a dyna pryd welon nhw'r màs mawr yma yn fy chest i.

"Roedd gen i diwmor bach yn fy ngwddw hefyd, ond ro'n i wedi gweld hwnnw ers blwyddyn dwytha'. Ro'n i'n brwsio fo i ffwrdd, dim yn meddwl llawer amdano - a chwerthin amdano fo weithiau, jyst oherwydd ei fod o'n rhywbeth ti ddim yn gweld pob dydd!"

'Rhywbeth sy'n digwydd i bobl eraill'

Cafodd ddiagnosis o Lymffoma Hodgkin, math o ganser sy'n taro'r system imiwnedd ac yn effeithio tua 2,000 o bobl y flwyddyn yn y DU.

Unigolion rhwng 15 a 34 oed a thros 60 oed sydd fwyaf tebygol o diagnosis, ac mae Grace yn teimlo nad ydy pobl ifanc yn ddigon ymwybodol o'r risg.

"Pan roedden nhw'n gwneud yr holl tests, roedd popeth oedd yn digwydd yn y misoedd dwytha' yn gwneud mwy o sens.

"Roedd gen i night sweats, ac yn teimlo wedi blino o hyd - dyna'r side effects o beth oedd yn digwydd, ond doedd o byth yn rhywbeth o'n i'n meddwl oedd yn serious.

"Do'n i'n gwybod dim byd o gwbl am Hodgkin's Lymphoma ar y pryd.

"Dwi wedi gweld pobl ar social media yn siarad am ganser mewn pobl ifanc, ond do'n i byth wedi edrych mewn iddo fo, oherwydd doedd o ddim yn rhywbeth oedd yn agos i fi, a do'n i ddim yn nabod pobl oedd efo fo. Roedd o jyst yn rhywbeth oedd yn digwydd i bobl eraill."

Disgrifiad,

"Da siarad efo pobl sy'n mynd trwy'r un peth"

Mae Grace wedi cael cefnogaeth elusennau fel Clic Sargent wrth iddi fynd drwy'i thriniaeth. Daw un o weithwyr yr elusen i'w thywys drwy'r broses, ac mae ganddi fynediad at grwpiau caeëdig ar Facebook lle mae pobl ifanc sy'n delio â chanser yn gallu rhannu profiadau a chyngor.

Dyna rhan o'r rheswm iddi ddechrau codi arian yn syth wedi ei diagnosis.

"Mae gen i dri neu bedwar diwrnod ar ôl bob triniaeth lle dwi'n cau'r drws ac yn cysgu, ond ar ôl hynny'n dwi'n gallu [codi arian].

"Mae'n rhywbeth i wneud. Ro'n i mor brysur yn gweithio a phethau, so i fynd o hynny i gyd i ddim byd, roedd yn sioc mawr.

"Y digwyddiad cyntaf oedd taith gerdded fyny Moel Famau mewn gwsig ffansi. [Roedd 'na] Batman, banana, Alice in Wonderland - loads o bethau!

"Roedd o'n rhywbeth doniol, ac roedd pobl oedd yn cerdded oedd ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd yn gofyn i ni, felly roedd hynny'n dda."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun yma ei dynnu ddyddiau cyn i Grace gael ei diagnosis ym mis Ionawr 2019

Hyd yn hyn, mae hi wedi codi dros £6,500 i dair elusen, ac yn edrych ymlaen at ddigwyddiad pellach i godi arian yn Yr Wyddgrug ar 13 Ebrill.

Cyn hynny, bydd yn rhaid i Grace wynebu mwy o gemotherapi.

"Dwi 'di gwneud pump cemotherapi allan o 12, felly mae gen i saith ar ôl. Ond dwi bron hanner ffordd, sydd yn neis!

"Ges i sgans i ddangos bod y cemotherapi yn gweithio a bod y canser yn lleihau - mae hynny'n positive step - ond dwi'n gwybod mai nid dyma'r diwedd eto."