Caneuon gwerin mae'n rhaid eu clywed

  • Cyhoeddwyd
Bob Delyn a'r EbillionFfynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Bob Delyn a'r Ebillion - un o'r bandiau sydd wedi eu henwebu yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019

Eisiau gwybod mwy am gerddoriaeth werin ond dim syniad lle i ddechrau?

Wrth i Wobrau Gwerin Cymru, dolen allanol gael eu cynnal am y tro cyntaf erioed ar 11 Ebrill, fe ofynnodd Cymru Fyw i 11 o enwau amlycaf y diwydiant i ddewis un cân fyddai'n gyflwyniad gwych i'r gerddoriaeth.

Ac mae posib gwrando ar yr holl ddewisiadau ar Awr Werin Lisa Gwilym BBC Radio Cymru, ac uchafbwyntiau'r noson wobrwyo ar raglen wythnos nesaf.

Elliw Iwan - Ymddiriedolwraig Trac, trefnydd gigs

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Ffarout

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Ffarout

Fel cân i gyflwyno rhywun newydd i gerddoriaeth gwerin Cymraeg faswn i'n dewis Ffair y Bala gan Bob Delyn a'r Ebillion.

Mae hon yn gân o'r 90au cynnar sy'n briodas berffaith o gân draddodiadol a cherddoriaeth gyfoes - gyda drone, cerddoriaeth dawns, mae yna bît yna ond mae'n defnyddio offerynnau traddodiadol ac mae'n plethu'n berffaith y traddodiadol a'r cyfoes.

Iolo Whelan - Jamie Smiths' Mabon, Huw M a Pendevig

Ffynhonnell y llun, Sain

Dwi wedi dewis cân draddodiaol o'r enw Beth Yw'r Haf i Mi.

Mae yna ddwsinau o recordiadau o'r gân yma gan ystod eang o artistiaid a fe ges i gyfle fy hunain llynedd i recordio fersiwn newydd eto efo Pendevig, yn cydweithio gyda rhai o'r cerddorion gwerin ifanc fwyaf disglair yng Nghymru.

Mae fersiwn Pendevig yn un reit gyhyrog - mae naws drum and base iddo, curiad cyflym a horns gordew a gitâr trydan grymus ond fersiwn arall dwi wedi dewis - perfformiad gan y Dr Meredydd Evans - sef Merêd wrth gwrs oedd yn ysgolhaig a chasglwr caneuon gwerin yng nghanol y ganrif ddiwethaf.

Mae'r trac oddi ar yr albwm Welsh Folk Songs a recordiwyd yn Efrog Newydd ar label Folkways Records yn 1954 ac mae wedi dylanwadu ar sawl cenhedlaeth o gerddorion Cymreig ers hynny.

Ac i fi mae'r gân yma yn enghraifft wych o'r cysylltiad rhwng y traddodiad fel ag yr oedd o, ac agwedd mwyaf newydd, mwyaf cyffrous ein traddodiad ni fel y mae heddiw.

Iestyn Tyne - Pendevig a Patrobas

Fy newis i ydi fersiwn Vrï o Cob Malltraeth efo llais Beth Celyn.

Y rheswm dwi wedi dewis hon ydi mod i'n meddwl ei bod yn gyfuniad perffaith o gymryd hen gân werin a rhoi ychydig o'r cyfoes ynddi.

Hefyd mae llais hyfryd a phwerus Beth Celyn yn cyd-fynd yn wych efo gwerin siambr Vrï.

Ywain Myfyr - Cilmeri, Gwerinos, sylfaenydd Sesiwn Fawr Dolgellau

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Plethyn

Dwi am fynd yn ôl rai blynyddoedd am y trac dwi wedi dewis - Seidr Ddoe gan Plethyn, efo llais unigryw Linda Griffiths.

Mae'n cwmpasu sawl agwedd o ganu gwerin er nad ydi hi o reidrwydd yn drac traddodiadol.

Mae'n cyfuno geiriau da, cerddoriaeth dda a llais arbennig.

Linda Griffiths - cantores gwerin, Plethyn

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Yr Hwntws

Y gân dwi wedi ei ddewis ydi Bachgen Bach o Dincar gan Yr Hwntws.

Fe recordiodd Yr Hwntws hon yn 1982 ac fe gafodd ei recordio gan Merêd hefyd yn 1954.

Mae'n gân werin draddodiadol ac mae'n enghraifft o gân ddwy iaith, facaronic. Mae Yr Hwntws yn wych yn offerynnol, yn bendant, ond yn goron ar y cyfan i fi mae llais Gregg Lynn - un o'r lleisiau gwerin gorau welodd Cymru erioed.

Mae'n canu mor naturiol ac mae sain galed i'w lais o, ac mae'n f'atgoffa i o sain a naturioldeb yr hen garolwyr plygain yng ngogledd Sir Drefaldwyn, yr ardal lle ges i fy magu, ac mae Gregg hefyd yn defnyddio'r hen Wenhwyseg sy'n debyg i acen Sir Drefaldwyn, ac mae hynny yn adio at yr apêl.

Mae rhywbeth oesol am y trefniant yma ac mae'n blethiad perffaith o lais ac offeryn.

Branwen Haf - Siddi, Cowbois Rhos Botwnnog

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube 2 gan S4C

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube 2 gan S4C

Dwi wedi dewis cân werinol gymharol newydd sef Pennant Melangell, lle mae Siân James wedi cymryd cerdd gan y delynores Nansi Richards ac wedi cyfansoddi alaw syml ond cofiadwy iawn iddi hi.

Dim ond fersiwn deuawd gyda Rhys Meirion sydd wedi ei recordio dwi'n meddwl, ond dwi wedi clywed Siân James yn ei chanu yn fyw nifer o weithiau - rheswm da i fynd i'w gweld hi.

Mae geiriau Pennant Melangell yn reit baradocsaidd... lle mae Nansi Richards yn trafod harddwch y lleoliad mae hi'n dymuno cael ei chladdu ac mae hyn i fi yn un o nodweddion mawr canu gwerin sef trio gwneud synnwyr o brofiadau mawr bywyd a hynny gan amlaf mewn ffordd eithaf diniwed a diffuant.

Mae'r alaw chwerw felys mae Siân James wedi ei chyfansoddi ar gyfer y geiriau yma yn plethu yn fendigedig a dwi'n meddwl bod y cyfuniad o'r ddau beth yn creu campwaith.

Mair Tomos Ifans - chwedleuwraig a chantores gwerin

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r gân 'Yr Hen Ŵr Mwyn' oddi ar yr albwm yma, ar label Sain

Dwi'n hoff iawn o'r traddodiadol ac yn teimlo bod rhaid gwerthfawrogi a deall y gwreiddiau cyn bod modd arbrofi a dwi wedi dewis cân o'r enw Yr Hen Ŵr Mwyn gan Shân Emlyn ac Elfed Lewys.

Mae sawl fersiwn o hon yng Nghymru; fersiwn o Sir Ddinbych ydi hon.

Y rheswm dwi wedi ei dewis hi ydi 'da ni'n gweld y posibiliadau sydd yna efo caneuon gwerin o greu stori. Yn aml iawn mae rhywun yn anghofio bod y geiriau mor bwysig - "it's not all about the music" fel maen nhw'n dweud.

Mae hon yn hyfryd achos mae Elfed Lewis yn canu mor dynner a chwareus ac weithiau rydan ni'n anghofio am hynny.

Weithiau rydan ni'n meddwl amdano efo'r llais mawr yn arwain gorymdeithiau ac yn canu baledi ar y maes Steddfod ac yn y blaen ac mae hon yn dangos yr ochr arall i'w arddull, ac mae Sian Emlyn yn cyd-chwarae yn grêt.

Gareth Bonello - The Gentle Good

Dwi wedi dewis trac cân Llio Rhydderch o'r enw Enaid Enlli.

Ddes i ar draws cerddoriaeth Llio am y tro cyntaf pan nes i glywed trac ar y Rough Guide to the Music of Wales, cyn o'n i'n gyfarwydd iawn gyda'r traddodiad Cymraeg o gwbl, a wnaeth y trac taro fi gan fod hi mor bert, ond hefyd yn teimlo mor fodern ar yr un pryd.

Mae'n gafael yn dynn yn y traddodiad delyn deires a hefyd yn byrfyfyrio ac yn mynd â chi i lefydd fydda chi ddim yn disgwyl o'r offeryn.

Siân Miriam - Tagaradr

Ffynhonnell y llun, Trac
Disgrifiad o’r llun,

Vrï - sydd wedi eu henwebu yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019

Mae'r dewis sydd gen i yn gân werin sy'n fy ysbrydoli i a fy hoff gân ar hyn o bryd sef Ffoles Llantrisant gan Vrï.

Mae'n gân efo alaw sy'n llifo ac mae jest yn hyfryd ac mae'n agos iawn at fy nghalon i a dwi'n ffodus iawn o fod wedi dod i adnabod aelodau Vrï ac yn mwynhau'r gân a'r alaw - mae'n fendigedig.

Frank Hennessy - The Hennessys, Celtic Heartbeat ar Radio Wales

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Hen Benillion' yn rhan o gasgliad yr albwm Sidan Glas.

Dwi'n hoff ofnadwy o'r delyn a llais ysgafn menyw ac mae llais Gwenan Gibbard yn berffaith ac mae'r delyn yn hyfryd.

Mae Maartin Allcock, o Loegr yn wreiddiol, fu farw llynedd wrth gwrs, yn dod â rhywbeth arbennig i'r darn o benillion sy'n canmol y delyn - sef Hen Benillion, gan Gwenan Gibbard, gyda Maartin Allcock.

Catrin Meirion - chwaraewr ffliwt, cymdeithas werin Clera

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube 3 gan WhackaWhacka

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube 3 gan WhackaWhacka

Dwi'n mynd yn ôl i haf braf 1997 a finnau'n byw ac yn gweithio mewn hostel ar arfordir Ardudwy dros yr haf.

Dwi'n rhuthro trwy waith shifft y bore achos dwi eisiau cyrraedd Sesiwn Fawr Dolgellau erbyn amser cinio mwyn gweld band fy chwaer yn perfformio.

Dwi ddim yn llwyddo i gyrraedd mewn pryd i weld Hergwd ond mae'n braf felly dwi'n aros, a pwy dwi yn clywed ydi'r band diarth a rhyfedd yma o'r enw Fernhill.

Dwi ddim wedi gweld neb yn chwarae gwerin Cymraeg yn y ffordd yma o'r blaen ac mae gwrando arnyn nhw yn gwneud i'n nghlustiau i pingio.

Ychydig wyddwn i y baswn i, tua 10 mlynedd wedyn, yn cael chwarae fy ffliwt ar lwyfan gŵyl werin Lorient fel rhan o ddirprwyaeth Cymru efo Y Glerorfa. Dwi reit sicr mai'r p'nawn chwilboeth yna yn y Sesiwn Fawr yn gwrando ar Fernhill am y tro cyntaf oedd man cychwyn rhyw ail-ddeffro cerddorol i mi.

Felly dwi wedi dewis Cowboi gan Fernhill - gan ddiolch yn fawr i Fernhill, a diolch yn fawr Sesiwn Fawr.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw