Gêm gyfeillgar: Cymru 0-0 Y Weriniaeth Tsiec
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson rwystredig i dîm pêl-droed merched Cymru wrth iddyn nhw gael eu cadw i gêm ddi-sgôr gyda'r Weriniaeth Tsiec yng Nghasnewydd.
Ond noson i roi teyrnged i Loren Dykes oedd hi, gyda'r amddiffynnwr yn sicrhau ei lle fel yr ail chwaraewr yr unig i ennill 100 o gapiau rhyngwladol dros Gymru.
Hi oedd y capten hefyd o flaen y dorf o 2,168 o gefnogwyr yn Rodney Parade - y mwyaf erioed i gêm gyfeillgar merched Cymru.
Fe wnaeth Cymru greu digon o gyfleoedd i sicrhau buddugoliaeth, ond doedd safon yr ergydio ddim yn ddigon cywir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019