Cyhoeddi carfan merched Cymru i wynebu'r Weriniaeth Tsiec
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, Jayne Ludlow, wedi enwi ei charfan ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar 4 Ebrill.
Gallai'r amddiffynnwr, Loren Dykes ennill ei chanfed cap os bydd hi'n chwarae rhan yn y gêm yn Rodney Parade.
Dykes byddai'r ail chwaraewr i gyrraedd 100 cap i dîm merched Cymru - chwaraewr canol cae Lyon, Jess Fishlock oedd y cyntaf.
Mae Elise Hughes, a enillodd wobr chwaraewr ifanc y flwyddyn yng Ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac Anna Filbey wedi cael eu galw 'nôl i'r garfan ar ôl methu'r gemau diweddar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
Mae disgwyl i'r gêm hon ddenu'r dorf fwyaf ar gyfer gêm gyfeillgar yn hanes tîm merched Cymru.
Carfan Cymru
Laura O'Sullivan (Caerdydd), Olivia Clark (Nettleham), Sophie Ingle (Chelsea), Hayley Ladd (Birmingham City), Loren Dykes (Bristol City), Gemma Evans (Bristol City), Cori Williams (Caerdydd), Ffion Morgan (Caerdydd), Anna Filbey (Tottenham Hotspur), Chloe Lloyd (Caerdydd), Angharad James (Everton), Jess Fishlock (Olympique Lyonnais), Kylie Nolan (Caerdydd), Elise Hughes (Everton), Grace Horrell (Caerdydd), Megan Wynne (Tottenham Hotspur), Helen Ward (Watford), Kayleigh Green (Brighton & Hove Albion), Natasha Harding (Reading), Charlie Estcourt (Reading).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019