Merched Cymru 0-1 Merched Gweriniaeth Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Colli o 1-0 oedd hanes Cymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym Marbella ddydd Mawrth.
Louise Quinn sgoriodd y gôl fuddugol i Iwerddon gyda pheniad yn yr ail hanner.
Dyma'r ail gêm rhwng y ddwy wlad, gyda'r gêm gyntaf bum niwrnod yn ôl yn gorffen yn ddi-sgor.
Mewn hanner cyntaf difflach, Cymru oedd yn edrych y mwyaf tebygol o sgorio, cyn i Quinn sgorio wedi 62 o funudau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019