Dem-Rhydd: 'Rhaid i'r bobl gael y gair olaf'
- Cyhoeddwyd
Mae angen refferendwm arall ar unrhyw gytundeb Brexit, yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Dywedodd Jane Dodds: "Dyw'r Brexitwyr na'r rhai ar ochr arall y ddadl wedi pleidleisio ar yr hyn sy'n cael ei roi gerbron y Senedd, ac mae'n rhaid i'r bobl gael y gair olaf."
Roedd Ms Dodds yn siarad ar drothwy cynhadledd wanwyn y blaid ddydd Sadwrn a dyna oedd ei neges hefyd wrth annerch cyd-aelodau yng Nghaerdydd.
Fe ddaeth hi'n arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 2017 - gan gymryd yr awenau gan gyn-AS Ceredigion Mark Williams.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd fod Brexit yn "dominyddu'r agenda" ond fod yna berygl y bod "materion pwysig eraill yn cael eu hesgeuluso" gan gynnwys newid hinsawdd, addysg ac anghydraddoldebau iechyd.
Ar bwnc Brexit dywedodd Ms Dodds: "Beth bynnag sy'n cael ei gytuno, mae angen sicrhau fod y bobl yn cael y gair olaf a hynny drwy Bleidlais y Bobl.
"Mae'n bechod gweld ASau yn cael eu galw'n fradwyr, neu eu cyhuddo o frad a gweld eirch yn cael eu cludo mewn gorymdeithiau.
"Rwy'n meddwl bod yn rhaid camu 'nôl ac oedi'r drafodaeth am 12 mis er mwyn tawelu pethau."
Fe wnaeth hi hefyd droi at yr amgylchedd, a'r angen i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
"Di hi ddim yn rhy hwyr," meddai.
"Er mwyn ein plant a phlant ein plant mae'n ddyledus arnom ni i wneud Cymru yn ganolfan dechnolegol ar gyfer ynni gwyrdd ar gyfer y DU.
"Mae'r arbenigedd yma i wneud hyn."
Ar hyn o bryd mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol un cynrychiolydd yn y Cynulliad, dim un AS ac nid ydynt yn rheoli unrhyw un o gynghorau Cymru.
Fe wnaeth Ms Dodds gydnabod fod yna "lawer o waith i'w wneud" ond ei bod o'r farn fod rhagolygon yn gwella.
"Rydym yn tyfu o'r gwaelod - rydym yn gweld Torïaid a chyn-Lafurwyr wnaeth bleidleisio o blaid aros yn ymuno â ni," meddai.
Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol orffen yn bumed yn isetholiad Gorllewin Casnewydd. yr wythnos yma.
'Torri cylch tlodi ac anfantais'
Yn y gynhadledd fe gyhoeddodd unig Aelod Cynulliad y blaid - y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams - bod £3.4m yn rhagor ar gael ar gyfer ehangu'r Grant Datblygu Disgyblion.
Mae'r grant yn helpu teuluoedd i dalu am iwnifform ysgol, offer chwaraeon mathau eraill o offer yn ymwneud â gweithgareddau all-gyrsiol.
Bydd teuluoedd disgyblion blwyddyn saith sy'n gymwys yn derbyn £200, yn lle'r £125 presennol.
Dywedodd "Mae torri cylch tlodi ac anfantais yn hollbwysig, ac mae wrth galon ein perwyl yn genedlaethol i godi safonau pob un disgybl.
"Bydd yr arian ychwanegol sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn golygu y bydd mwy o ddisgyblion yn gymwys i gael nawdd, a bydd mwy o arian ar gael i rieni plant sy'n pontio o ysgol gynradd i ysgol uwchradd - sydd, fel y gwyddom ni oll, yn gallu bod yn gyfnod drud iawn."
Dadansoddiad Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick
Cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron wnaeth gymharu ei blaid gyda ffawd y cockroach ar ôl rhyfel niwclear, gan awgrymu nad yw o bwys pa mor ddrwg mae pethau mynd - fe fydd y blaid yn goroesi.
Mae hynny o hyd wedi bod yn wir yn y gorffennol o ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'u rhagflaenwyr - gan weld eu niferoedd yn San Steffan yn gostwng i un cynrychiolydd ar fwy nac un achlysur.
Ond 2017 oedd yr etholiad cyntaf ers ffurfio'r hen blaid Ryddfrydol yn 1859 pan na chafodd yr un cynrychiolydd ei ddychwelyd i San Steffan.
Mae'r presenoldeb, oedd ar un adeg yn un sylweddol, ar gynghorau lleol wedi bron â diflannu a dim ond un cynrychiolydd sydd gan y blaid ym Mae Caerdydd, gan gydweithio'n agos gyda Llafur er mwyn ennill sedd yn y cabinet.
Dyw adfywiad ddim yn amhosib, yn enwedig yn yr amseroedd ansicr hyn.
Ond bach, bach iawn yw unrhyw arwydd o hynny ar hyn o bryd, a dyw safiad pro-Ewropeaidd pendant y blaid ddim fel pe bai wedi denu llu o bleidleiswyr sydd o blaid aros i'w rhengoedd.