Cable: Anodd i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Vince Cable

Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Vince Cable, wedi cyfaddef bod ei blaid mewn sefyllfa "anodd" ar hyn o bryd yng Nghymru.

Dywedodd bod ganddyn nhw "waith ail-adeiladu mawr", ond honnodd bod y blaid yn parhau'n gryf yng nghanolbarth y wlad.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn galw am ail refferendwm ar gytundeb terfynol Brexit.

Yn ôl Syr Vince, mae o'n barod i weithio gyda "phleidiau eraill" gan gynnwys Plaid Cymru.

'Proses cam wrth gam'

Does gan y blaid yr un Aelod Seneddol yng Nghymru, ac mae ei hunig Aelod Cynulliad, Kirsty Williams, yn ysgrifennydd addysg yn Llywodraeth Cymru.

Fe gafodd arweinydd Cymreig newydd y blaid, Jane Dodds, ei hethol fis Tachwedd diwetha'.

Mae hi'n "unigolyn medrus arbennig" meddai Syr Vince, ond mae'n cyfaddef y bydd hi'n cymryd amser i "adeiladu'r gefnogaeth ar lawr gwlad".

Dywedodd: "Mae hi'n anodd a dwi'n cydnabod bod 'na waith ail-adeiladu mawr i'w wneud.

"Rydym yn parhau yn gry' yng nghanolbarth Cymru lle bu gennym ni dri Aelod Seneddol tan yn ddiweddar, a dwi'n hyderus y cawn ni nhw yn ôl."

Dywedodd y bydd ei blaid yn "ail-adeiladu yn rhannol drwy lywodraeth leol", ac fe ychwanegodd: "Mae hi'n broses cam wrth gam ond dwi eisiau i ni gyflymu hynny."

Dywedodd hefyd ei fod yn "berffaith hapus" i weithio gyda phleidiau eraill ar Brexit: "Mae'n ymddangos bod gan Blaid Cymru sefyllfa debyg i ni ac rwy'n hapus i weithio gyda nhw."