'Brwydr ddyddiol' teulu i ryddhau carcharor o Yemen
- Cyhoeddwyd
Mae mam dyn 27 oed o Gaerdydd sydd mewn carchar ar gam yn Yemen ar amheuaeth o fod yn ysbïwr Prydeinig wedi trafod ei thrallod a'i rhwystedigaeth ynghylch methiant ymdrechion y teulu i'w ryddhau.
Mae Luke Symons yn cael ei ddal yn ddigyhuddiad fel carcharor gwleidyddiol ers dwy flynedd yn y wlad lle mae rhyfel cartref ers 2015 a miloedd wedi eu lladd.
Roedd yn byw yn Yemen pan gafodd ei gymryd gan wrthryfelwyr wrth geisio trefnu i adael y wlad gyda'i wraig, Tagreed, a'u mab ifanc, Hoode.
Dywedodd Jane Lawrence o ardal Trelái wrth BBC Cymru bod y sefyllfa yn "erchyll" ac yn teimlo fel petai'n "ddi-ddiwedd" wedi sawl cam yn ôl.
Yn ôl teulu Luke, mae'n cael ei ddal gan wrthryfelwyr Houthi yn y prif ddinas Sana'a. Maen nhw wedi cael ar ddeall bod trefniadau i'w ryddhau gan eu bod yn derbyn nad oedd yn ysbïwr.
Ond mae'r gwrthryfelwyr ond yn fodlon ei ryddhau os mae'r ICRC (International Committee for the Red Cross) yn ei hebrwng o Yemen.
Mae hynny'n anodd eithriadol oherwydd y rhyfel cartref, ac mae'r teulu'n dweud y byddai hefyd yn anniogel iddo adael Sana'a trwy'r wlad drws nesaf, Djibouti, am nad oes gan Brydain swyddfa is-gennad yno.
Hefyd, medd y teulu, mae angen codi £10,000 at gostau teithio, gwestai ac yswiriant ac i dalu am gais gwraig Luke am fisa.
Dywedodd Ms Lawrence: "Ro'n i methu credu'r peth. Yn sydyn reit, roedd yna sawl rhwystr o'n blaenau.
"Lle roedden nhw am fynd ag e? Sut oeddan ni am dalu'r costau? Ni jest yn aros nawr i weld be ddigwyddith."
Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi achosi straen aruthrol, yn ôl Ms Lawrence.
"Chi'n meddwl eich bod yn gallu dygymod wrth i'r sefyllfa fynd rhagddi, ond dydych chi ddim. Mae'n gwaethygu.
"Ac yn arbennig nawr gyda'r newyddion ei fod yn cael dod gartre [yn wreiddiol], ond nawr dyw e ddim yn dod gartre. Mae'n frwydr dyddiol."
Dywedodd mai'r gobaith o hyd yw sicrhau bod Luke yn dychwelyd i Gaerdydd gyda'i deulu, ac y byddai'n "wirioneddol wych" i weld ei hŵyr bach yn chwarae ym Mharc Fictoria fel roedd ei dad yn arfer gwneud yn ei blentyndod.
Mae Aelod Seneddol lleol y teulu - aelod Llafur Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan - wedi codi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt drafod yr achos wrth ymweld â Yemen yn ddiweddar, gan ddweud eu bod yn "parhau i droi pob carreg posib i geisio cael ffordd o'i gael yn ôl adref".
Dywedodd llefarydd ar ran ICRC bod y Groes Goch yn ymwybodol o achos Luke ond bod hi'n amhosib gwneud sylw pellach oherwydd natur cyfrinachol eu dulliau gweithredu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2019