Pro14: Scarlets 12-20 Caeredin

  • Cyhoeddwyd
Tacl ar Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Tacl ar Jonathan Davies - sgoriwr un o geisiau'r Scarlets

Er hanner cyntaf addawol, colli wnaeth y Scarlets i Gaeredin wedi cyfraniad unigol arbennig gan y chwaraewr o Dde Affrica, Jaco van der Walt.

Roedd y tîm cartref 12-0 ar y blaen ar yr egwyl diolch i gais yr un gan Gareth Davies a Jonathan Davies, a throsiad Leigh Halfpenny.

Ond fe ddaeth tro ar fyd yn yr ail hanner, gyda phwyntiau cyntaf Caeredin - a van der Walt - yn dod trwy gic gosb.

Daeth cais wedyn i'r ymwelwyr wedi i Matt Scott hollti amddiffyn y Scarlets ac fe wnaeth trosiad van der Walt wneud y sgôr yn 12-10 wedi 59 o funudau.

Bum munud yn ddiweddarach roedd Caeredin ar y blaen 12-17 am y tro cyntaf, a'r tro hwn roedd van der Walt yn gyfrifol am y cais yn ogystal â'r trosiad ar ôl rhyng-gipio pas gan Halfpenny.

Ychydig funudau wedi hynny, roedd ail gic gosb y chwaraewr o Dde Affrica wedi ymestyn mantais y gwrthwynebwyr i 12-20.

Mae's Scarlets yn parhau yn y pumed safle adran B y Pro14.