Llywodraeth Cymru 'i atal taliadau i ysbyty Caer'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Iarlles Caer
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod tua 20% o gleifion yr ysbyty yn byw yng Nghymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn atal taliadau i ysbyty yng Nghaer os yw'n gwrthod derbyn cleifion o Gymru yn y dyfodol, yn ôl y Prif Weinidog.

Dydd Iau, fe benderfynodd Ysbyty Iarlles Caer na fydd yn derbyn cleifion o Gymru, oni bai am achosion brys a mamolaeth.

Y gred yw bod tua 20% o gleifion yr ysbyty yn byw yng Nghymru, gyda'r mwyafrif o'r rhain yn Sir y Fflint.

Dywedodd yr ysbyty nad ydyn nhw'n bwriadu ymateb i sylwadau Mark Drakeford.

Dywedodd prif weithredwr yr ysbyty, Susan Gilby ddydd Iau ei fod yn benderfyniad "anodd" ac yn ganlyniad i broblemau'n ymwneud â thaliadau ariannol.

Ond mae Mr Drakeford yn mynnu bod dyledion Cymru wastad wedi cael eu talu.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae Cymru wastad wedi talu ei dyledion", yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford

Wrth siarad mewn Pwyllgor Craffu yn y Cynulliad, dywedodd Mr Drakeford "na fyddai arian o Gymru yn llifo iddyn nhw yn y dyfodol" os yw'r gwasanaeth yn cael ei rwystro.

"Mae cleifion o Gymru yn rhan o'u cyfrifoldeb craidd, yn y ffordd mae'r system yn Lloegr yn gweithio," meddai.

Ychwanegodd mai'r prif ffocws ar hyn o bryd yw datrys y broblem drwy gynnal "trafodaethau call" rhwng y ddwy ochr.

"Ers datganoli mae cyflenwyr o Loegr yn aml yn awgrymu nad yw Cymru yn talu eu dyledion... bob tro mae hynny wedi cael ymchwiliad, daeth i'r canlyniad bod hynny ddim yn wir."