Ysbyty Caer i wrthod cleifion o Gymru wedi newid polisi

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Countess of Chester

Mae ysbyty yng Nghaer wedi dweud na fydd yn derbyn cleifion o Gymru yn y dyfodol, oni bai am achosion brys a mamolaeth.

Dywed penaethiaid Ysbyty Iarlles Caer fod y penderfyniad yn dod i rym ar unwaith.

Y gred yw bod tua 20% o gleifion yr ysbyty yn byw yng Nghymru, y mwyafrif o'r rhain yn Sir y Fflint.

Golygai'r penderfyniad na fydd meddygon teulu yng Nghymru yn gallu cyfeirio cleifion i'r ysbyty - all olygu pwysau ychwanegol ar Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Dywedodd prif weithredwr yr ysbyty, Susan Gilby, ei fod yn benderfyniad "anodd" ac yn ganlyniad i broblemau'n ymwneud â thaliadau ariannol, ond bod trafodaethau yn parhau.

'Anodd cyfiawnhau'

Ym mis Hydref y llynedd dywedodd Syr Duncan Nichol, cadeirydd yr ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am Ysbyty Iarlles Caer, ei fod yn anodd cyfiawnhau edrych ar ôl cleifion o Gymru oherwydd y gost ychwanegol o £4m bob blwyddyn.

Mae Evan Moore, cyfarwyddwr gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn llythyr yn sôn am y newidiadau.

"Dyw'r penderfyniad ddim yn effeithio triniaethau sydd heb gael eu trefnu o flaen llaw, er enghraifft cleifion sy'n mynychu unedau brys," meddai.

"Fe fydd cleifion canser a phobl sydd angen llawdriniaeth brys sydd wedi ei drefnu o flaen llawn ac sydd ar restr aros yn parhau i gael eu trin yno."

Ychwanegodd na fyddai'r newidiadau yn effeithio cleifion mamolaeth o Gymru.

Yn 2018, dywedodd Ymddiriedolaeth Iarlles Caer:

  • Cafodd 23,500 o gleifion o Gymru eu trin dros y ffin yn 2016/17;

  • Roedd y rhan fwyaf yn ofal eilaidd - sydd fel arfer yn ofal arbenigol ar ôl i glaf gael eu cyfeirio gan feddyg;

  • Cost y driniaeth yn 2016/17 oedd £31.2m.

Yn y gorffennol mae Syr Duncan Nichol wedi dweud nad oedd yr ymddiriedolaeth yn cael unrhyw dâl am gleifion o Gymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd fod cleifion yn cael eu hariannu yn unol â'r rheolau cyllido sy'n cael eu gosod gan y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Penderfyniad 'anffodus'

Mewn datganiad dywedodd Ms Gilby bod yr ysbyty'n "ymwybodol o safle'r ysbyty yn agos i'r ffin, gyda nifer o'n cleifion a'n staff yn dod o Gymru yn ogystal ag o Loegr".

"Yn anffodus mae hwn yn gam yr oedd yn rhaid ei gymryd oherwydd problemau'n ymwneud â chyllid sydd heb eu datrys.

"Ond mae trafodaethau ynglŷn â chytundebau yn parhau.

"Rwy'n ddiolchgar i dîm arweinwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am barhau i weithio yn galed mewn partneriaeth gyda ni er mwyn datrys y sefyllfa."

Mae un feddygfa ym Mrychdyn, Marches Medical Practice, yn dweud bod bai ar Lywodraeth Cymru.

"Nid oes unrhyw un wedi ymgynghori a ni ynglŷn â'r penderfyniad, ac rydym wedi cael gwybod mewn trafodaethau gyda chynrychiolwyr y bwrdd iechyd i'r penderfyniad gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru.

"Rydym yn teimlo fel meddygfa ar y ffin y dylai cleifion gael yr hawl i ddewis lle maen nhw'n cael triniaeth, ac rydym yn hynod siomedig y gallai ein cleifion gael eu heffeithio yn negyddol gan y polisi yma.

"Rydym yn gobeithio mai mater dros dro yw hyn a byddwn yn rhoi gwybod i gleifion unwaith y cawn ni mwy o wybodaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mark Tami: 'Cafodd yr ysbyty ei adeiladu ar gyfer pobl y dalgylch'

Dywed AS Alun a Glannau Dyfrdwy, Mark Tami, fod y penderfyniad yn achosi pryder mawr, a bod angen datrys y sefyllfa ar frys.

"Fe gafodd Ysbyty Iarlles Caer ei adeiladu er mwyn rhoi gofal i bobl y dalgylch, sy'n cynnwys pobl Sir y Fflint. Mae'n hanfodol bwysig fod hyn yn parhau.

"Rwyf wedi clywed gwahanol resymau pam fod hyn wedi digwydd ac rwy'n ceisio canfod yn union beth sydd wedi digwydd.

"Fe wnes i ysgrifennu at Iarlles Caer a Bwrdd Betsi Cadwaladr dair wythnos yn ôl a byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.

"Mae'n rhaid i bawb gydweithio er mwyn sicrhau bod cleifion o Gymru yn parhau i dderbyn triniaeth yng Nghaer."

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn benderfyniad gafodd ei wneud ganddyn nhw.

Ychwanegodd y llefarydd bod y swyddogion yn trafod trefniadau gofal dros y ffin gyda swyddogion o Loegr, ond bod "unrhyw weithred gan wasanaethau yn Lloegr i atal cleifion o Gymru ar sail ariannol yn annerbyniol".