Nofio yn y môr yn talu ar ei ganfed i ddioddefwr meigryn
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Ynys Môn sy'n dioddef gyda'r meigryn wedi cwblhau her i'w hun i nofio yn y môr 100 o weithiau mewn ymgais i weld a fyddai ei symptomau'n gwella.
Ers dechau nofio yn y môr y llynedd, mae Beth Francis yn dweud ei bod yn cael cur pen difrifol yn llai aml - 15 o weithiau bob mis, yn hytrach na 25.
Dydy hi ddim gant y cant yn sicr ai bod yn y dŵr yw'r ffactor allweddol, yn hytrach nag ymarfer corff yn gyffredinol a bod yn yr awyr agored.
Ond mae hi'n bwriadu parhau i nofio yn y môr ac wneud hynny am y canfed tro yn Llanddona brynhawn Sul roedd yna wahoddiad i bobl i ymuno â hi a'i chymar, Andrew Clark - cynhyrchydd filmiau sydd wedi ei helpu i gofnodi ei phrofiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd brynhawn Sul bod yr ymateb i'w hymrechion gan bobl fu'n ei dilyn ar-lein yn "anhygoel" a bod hi ac Andrew eisiau nodi'r garreg filltir gyda "dathliad yn cynnwys pawb arall hefyd".
Roedd dioddefwyr eraill wedi ymuno â'r cwpwl yn y fan lle wnaethon nhw nofio am y tro cyntaf yn Hydref 2017.
Mae Beth - biolegydd morol 27 oed sy'n cael meigryn ers yn naw oed - yn parhau i gymryd meddyginiaeth a gweld arbenigwr, ond mae'n dweud bod mynd i'r môr yn fuan wedi i'r symptomau ddechrau yn helpu iddyn nhw beidio gwaethygu gymaint.
Roedd y cyflwr - sy'n effeithio ar un o bob saith person ym Mhrydain - yn achosi gymaint o boen iddi erbyn 2017, bu'n rhaid iddi gymryd seibiant salwch yn ystod blwyddyn gyntaf ei doethuriaeth Bywydeg Morol ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'n cyfaddef ei bod "ar ben ei thennyn" ac roedd y symptomau'n cynnwys tinnitus, nausea, poenau yn y bol a diffyg teimlad ar un ochor o'i chorff.
Ar ôl darllen gwaith ymchwil am fanteision posib ymarfer yn yr awyr agored, fe dechreuodd nofio yn y môr fel rhan o brosiect y cwpwl, 100 Days of Vitamin Sea, dolen allanol.
Mae'r prosiect wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol, gan ennyn diddordeb pobl eraill sy'n dioddef gyda'r meigryn.
"Mae'n ymddangos bod y peth wedi cyffwrdd yn llawer o bobl," meddai Beth. "Mae'r siwrne wedi bod yn yn syfrdanol."
Ychwanegodd bod y brifysgol yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn prosiect sy'n cael ei sefydlu er mwyn gweld i ba raddau mae cawodydd oer yn helpu lleddfu meigryn.
Dywed llefarydd ar ran yr elusen Migraine Trust bod yna dystiolaeth anecdotaidd bod ymarfer corff a chawodydd oer yn helpu rhai dioddefwyr, er bod ymarfer corff yn gallu achosi meigryn i eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2018
- Cyhoeddwyd5 Mai 2018