Pro14: Southern Kings 18-18 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Aaron WainwrightFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe lwyddodd y Dreigiau i osgoi colli yn erbyn Southern Kings yn Port Elizabeth ar y funud olaf, diolch i gic gosb hwyr gan Josh Lewis.

Y tîm o Gymru gafodd y gorau o'r cyfnod cychwynnol, gydag Adam Warren yn sgorio cais cyntaf y gêm wedi tair munud.

Erbyn y 12fed munud roedd y Dreigiau 0-8 ar y blaen wedi trosiad a chic gosb gyntaf Lewis o'r prynhawn.

Ond yna, wedi ambell enghraifft o ddiffyg disgyblaeth gan chwaraewyr Ceri Jones, fe darodd y tîm cartref yn ôl gyda cheisiau Stefan Ungerer a Bjorn Basson, a chic gosb Bader Pretorius.

13-8 oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Kings sgoriodd y cais nesaf hefyd - gan Harlon Klaasen wedi 52 o funudau, cyn i Jordan Williams dirio a Josh Lewis drosi i'w gwneud hi'n 18-15.

Fe diriodd Rhodri Williams hefyd o bas gwych gan Jack Dixon gyda chwarter awr o'r 80 munud i fynd, ond doedd y cais ddim yn sefyll.

Ond roedd yna un tro arall yn y cynffon wedi i'r tîm cartref droseddu ac ildio'r gic gosb arweiniodd at yr ymwelwyr yn unioni'r sgôr.

Mae'r Dreigiau'n parhau i fod un pwynt y tu ôl i'w gwrthwynebwyr dydd Sul ar waelod Adran B.