Heddlu'n chwilio am ddyn 19 oed wedi 'achos o drywanu'
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn chwilio am ddyn 19 oed o Dorfaen wedi i ddyn gael ei drywanu ym Mhont-y-pŵl nos Sadwrn.
Mae ditectifs yn awyddus i siarad gyda Daniel Drew wedi'r digwyddiad y tu allan i archfarchnad Tesco yn y dref.
Dywed y llu bod dyn lleol 22 oed wedi cael anaf i'w fol a'u bod yn credu iddo gael ei drywanu â chyllell.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle mae mewn cyflwr sefydlog.
Mae'r heddlu'n amau bod yna gysylltiad rhwng yr ymosodiad â galwad frys i'r awdurdodau am 21:30 nos Sadwrn bod car wedi ei ddifrodi yn Ffordd Osbourne.
Maen nhw hefyd yn dweud bod trosedd arall â chymhelliad hiliol wedi digwydd ym mwyty Peri Cottage, cyn i'r dyn gael ei drywanu.
Mae swyddogion yn credu bod Daniel Drew yn yr ardal ar y pryd ac fe allai fod â gwybodaeth allweddol.
Mae dau ddyn, un yn 20 oed a'r llall yn 48 oed, yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio mewn cysylltiad â'r achos.