Arglwydd Hain heb dorri rheolau safonau Tŷ'r Arglwyddi
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Safonau Tŷ'r Arglwyddi wedi gwrthod cwyn fod Arglwydd Hain wedi methu a datgan diddordeb wrth iddo gyhoeddi yn y senedd fod y miliwnydd Syr Philip Green yn gysylltiedig gyda honiadau o ymddygiad amhriodol.
Fis Hydref y llynedd fe wnaeth Mr Hain, cyn Ysgrifennydd Cymru a Gogledd Iwerddon, enwi Sir Philip fel y dyn busnes amlwg nad oedd y Daily Telegraph yn cael cyhoeddi ei enw oherwydd gorchymyn llys.
Yn dilyn hynny fe wnaeth cyfreithwyr Syr Philip, Schillings, gwyno fod Arglwydd Hain wedi methu a datgelu ei fod ef yn ymgynghorydd i gwmni cyfreithwyr Ince Gordon Dadds, oedd yn cynrychioli grŵp papurau newydd y Telegraph.
Fe wnaeth Schillings hefyd gwyno y dylid ystyried datganiad Arglwydd Hain fel un oedd yn cynnig gwasanaeth seneddol am dâl, a bod y defnydd o hawliau seneddol yn yr achos hwn wedi torri rheolau sub judice.
'Afresymol i geryddu'
Mewn adroddiad ddydd Llun, dywedodd y comisiynydd Safonau, Lucy Scott-Moncrieff, ei bod yn gwrthod yr honiad o dderbyn tâl am wasanaethau seneddol, a dywedodd nad oedd materion ynglŷn ag hawliau seneddol a sub judice yn dod o dan ei goruchwyliaeth.
Fe wnaeth hi hefyd wrthod yr honiad o fethu a chyhoeddi diddordeb ar ôl iddi dderbyn tystiolaeth gan Arglwydd Hain nad oedd ef yn ymwybodol o rôl Ince Gordon Dadds yn achos Syr Philip Green.
"Byddai'n afresymol i'w geryddu am fethu a datgan diddordeb am yr hyn nad oedd yn ymwybodol ohono," meddai.