Teyrnged i nain fu farw wedi gwrthdrawiad Baglan
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes 87 oed fu farw wedi gwrthdrawiad difrifol yn ardal Port Talbot ar 31 Mawrth.
Bu farw Phyllis Mahoney o Faglan yn yr ysbyty ar 2 Ebrill.
Dywedodd teulu Ms Mahoney mewn datganiad bod ei marwolaeth wedi "rhwygo eu bywydau yn ddarnau".
"Roedd hi'n fam i dri o blant, yn nain ac yn hen nain gariadus a bydd colled gwirioneddol ar ei hôl."
Cafodd yr heddlu eu galw i Seaway Parade yn ardal Baglan am tua 23:20 ar 31 Mawrth yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd.
Cafodd dau ddyn, 26 a 33 oed, eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ond mae'r ddau bellach wedi eu rhyddhau.
Mae'r ymchwiliad yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2019