Claf iechyd meddwl 'mewn hwyliau da' cyn ei marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Emily InglisFfynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Emily Inglis ei darganfod wedi marw yn ei hystafell yn Ward Bryngofal yn Ysbyty'r Tywysog Philip ar 22 Ebrill 2016

Dywedodd staff ward iechyd meddwl a fu'n gofalu am glaf fu farw dan eu gofal iddi ymddangos mewn hwyliau da ar y diwrnod hwnnw.

Fodd bynnag, cafodd y cwest i farwolaeth Emily Inglis, 26 oed, wybod gan gyfreithiwr ei theulu ei bod wedi hunan anafu bedair gwaith yn yr wythnos cyn ei marwolaeth, a'i bod wedi ceisio dianc tair gwaith y mis hwnnw.

Cafodd Ms Inglis ei darganfod yn farw yn ei hystafell yn Ward Bryngofal, yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli ar 22 Ebrill 2016.

Dywedodd staff a fu'n gofalu amdani'r diwrnod hwnnw nad oeddent wedi sylwi ar unrhyw ymddygiad negyddol.

Asesu drwy 'sgyrsiau anffurfiol'

Fe wnaeth John Holmes, y nyrs iechyd meddwl oedd yn gyfrifol am y shifft hwyr ar y noson cafodd Ms Inglis ei darganfod, esbonio bod staff yn cadw golwg ar ac yn asesu cleifion drwy gynnal "sgyrsiau anffurfiol".

Mynegodd ei fod yn fwy effeithiol nag asesu ffurfiol gan ddweud: "Rydych yn gwylio sut maen nhw'n cyflwyno eu hunain, beth maen nhw'n ddweud, eu hystumiau, ac asesu'n gyson."

Dywedodd Mr Holmes nad oedd wedi cael gwybod yn y nodyn trosglwyddo bod Ms Inglis wedi cyfaddef ei bod yn "ei chael hi'n anodd", a oedd yn golygu ei bod wedi bod yn cael meddyliau am hunan-anafu a'i bod wedi cael ei hanfon am fwy o feddyginiaethau.

Yn ogystal, dywedodd Mr Holmes wrth y cwest ei fod yn hyderus bod y staff asiantaeth oedd ar ddyletswydd wedi cael hyfforddiant digonol i arsylwi cleifion, er nad oedd gan un ohonynt brofiad gyda chleifion iechyd meddwl o'r blaen.

'Claf risg isel'

Siaradodd Martin Stevenson, un o'r tri gweithiwr cymorth a fu'n cadw golwg ar ac yn asesu Ms Inglis y noson honno, a'r un mwyaf profiadol i hyfforddi'r ddau o staff asiantaeth newydd.

Roedd y cwest eisoes wedi clywed sut cafodd un ohonynt - Karla Watters - hyd i Ms Inglis yn gorwedd ar lawr ei hystafell.

Atebodd Mr Stevenson gwestiwn am weld asesiad risg Ms Inglis: "Welais i erioed y fersiwn swyddogol ond roeddwn yn gwybod y risgiau. Dangosais iddyn nhw [y ddau aelod arall o staff] sut fyddai'n rhaid iddynt fynd i'r ystafell pe na baent yn gweld neu glywed lle'r oedd Emily.

"Roedd hi'n risg isel ar y cyfan, gyda chadw golwg arni'n digwydd bob awr."

Dywedodd Mr Stevenson nad oedd yn gallu cofio os oedd yn ymwybodol bod Ms Inglis wedi gwneud sawl ymgais i ddianc.

Mae'r cwest yn parhau.