Yr RSPCA yn cwblhau'r gwaith o achub defaid o glogwyn
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i dimau rhaffau achub rhai anifeiliaid o gopa'r glogwyn
Mae'r gwaith o achub degau o ddefaid oddi ar glogwyni yn Sir Benfro wedi cael ei gwblhau gan yr RSPCA.
Mae'r elusen yn credu bod yr anifeiliaid wedi mynd dros y clogwyn yn ardal Mathri ger Abergwaun yr wythnos ddiwethaf ar ôl i gi roi braw iddynt.
Dechreuodd y gwaith achub yr wythnos ddiwethaf, ond bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r gwaith oherwydd tywydd gwael.
Mae cyfanswm o 65 bellach wedi'u hachub - 42 ohonynt yr wythnos ddiwethaf a 23 ddydd Mercher.

Cafodd 23 o'r defaid eu hachub ddydd Mercher
Bu'n rhaid i dimau rhaffau achub rhai anifeiliaid o gopa'r clogwyn, tra bod eraill wedi cael eu cludo oddi yno ar gychod.
Y gred yw bod tua 20 wedi marw ar ôl disgyn or clogwyn.

Mae 65 o'r anifeiliaid bellach yn ôl gyda'r ffermwr
Dywedodd arweinydd ymgyrch yr RSPCA, Andrew Harris mai dyma'r un "mwyaf technegol rydyn ni wedi gorfod delio â hi".
"Mae'r achubwyr i gyd wedi gweithio mor galed ac mae'n grêt gweld nad yw'r defaid mewn perygl bellach a'u bod yn ôl yn ddiogel gyda'r ffermwr," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2019