Oedi'r ymdrech i achub defaid o glogwyni lle mae 20 wedi marw

  • Cyhoeddwyd
ClogwynFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 25 o ddefaid yn parhau ar y clogwyni

Mae timau arbenigol wedi gorfod oedi eu hymdrechion wrth geisio achub degau o ddefaid oddi ar glogwyni yn Sir Benfro oherwydd tywydd gwael.

Dywedodd llefarydd ar ran RSPCA Cymru fod yr amodau yn ardal Mathri, ger Abergwaun, yn wael fore Mercher ac y byddai'n rhaid aros i'r tywydd wella cyn parhau.

Ddydd Llun llwyddodd swyddogion yr elusen - gyda chymorth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - i gludo 40 o ddefaid o'r clogwyni yng ngogledd y sir.

Dim ond tri o'r anifeiliaid gafodd eu hachub ddydd Mawrth oherwydd i'r tywydd waethygu.

Y gred yw bod tua 25 yn dal ar y clogwyni, a bod tua 20 wedi marw.

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Bu tîm rhaffau arbenigol o Bontardawe yn cynorthwyo yr ymdrech achub

Yn ôl RSPCA Cymru dau frawd yn eu 80au sy'n berchen yr anfeiliaid, ac maen nhw'n dweud bod tua 90 o ddefaid wedi mynd ar goll yn wreiddiol.

Mae'r elusen yn dweud ei fod yn bosib i'r defaid fynd dros y clogwyn ar ôl i gi roi braw iddynt.

Bu tîm arbenigol Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru o Bontardawe yn defnyddio rhaffau i achub yr anifeiliaid gyda swyddogion yr RSPCA yn cynorthwyo mewn cwch.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA: "Mae'r defaid wedi eu gwasgaru dros ardal eang ac maen grwpiau.

"Unwaith eto mae'r RSPCA am atgoffa perchenogion cŵn i gadw eu hanifeiliaid ar dennyn wrth ymweld ag ardaloedd lle mae anifeiliaid yn pori."

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 40 o'r defaid eu hachub ddydd Llun

Ffynhonnell y llun, RSPCA