Cynghorau Cymru eisiau cronfa arbennig ar ôl Brexit

  • Cyhoeddwyd
Brexit Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y Gronfa Ffyniant a Rennir fydd yn cymryd lle arian o'r Undeb Ewropeaidd

Mae pedwar o awdurdodau lleol Cymru wedi arwyddo datganiad yn galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu cronfa arbennig yn sgil Brexit ar gyfer rhanbarthau mwyaf difreintiedig y DU.

Dywedodd yr awdurdodau y bydd y gwahanol ranbarthau yn colli €13m unwaith i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae arweinwyr pedwar o gynghorau o Gymru - Conwy, Sir Gaerfyrddin, Sir Penfro a Phen-y-bont ar Ogwr - yn galw am sefydlu Cronfa Ffyniant a Rennir "er mwyn cymryd lle'r buddsoddiad pwysig hwn".

Yn un o ranbarthau llai breintiedig yr UE, fe fydd Cymru wedi derbyn dros £5bn o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd erbyn 2020.

Yn y gorffennol, mae arian o Frwsel wedi talu am brosiectau ledled Cymru, gan gynnwys Lido Pontypridd, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r Academi Hwylio Cenedlaethol ym Mhwllheli.

Yn ogystal ag awdurdodau lleol o Gymru mae'r datganiad wedi cael ei lofnodi gan arweinwyr awdurdodau yng Nghernyw ac Ynysoedd Scilly, De Swydd Efrog, Dyffryn Tees a Durham, a Dwyrain Llundain.

'Parchu datganoli'

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson fod datblygu cronfa ffyniant yn fater brys.

"Mae gennym lawer o brofiad o gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni polisi rhanbarthol," meddai.

"Gwyddom na chaiff y pethau hyn eu gwneud dros nos, ond byddai'n annerbyniol gweld rhaglenni presennol yr UE yn dod i ben heb unrhyw fanylion am yr hyn fydd yn cymryd eu lle."

Mae'r datganiad hefyd yn dweud y dylai unrhyw gronfa sy'n cael ei sefydlu barchu datganoli gan ddatgan "ni fyddwn yn derbyn unrhyw gamu 'nôl ar ddatganoli gan ein bod yn credu fod gor-ganoli polisi economaidd y DU a phenderfyniadau cyllido yn un o'r prif resymau y tu ôl i anghydraddoldeb rhanbarthol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Theresa May yn gadael uwch gynhadledd Cyngor Ewrop ym Mrwsel

Daw galwad yr awdurdodau wrth i Theresa May ddychwelyd o drafodaethau dwys gydag arweinwyr gwledydd eraill yr UE yr wythnos hon.

Maen nhw wedi gosod dyddiad newydd ar gyfer i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb, sef 31 Hydref.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn deall pwysigrwydd cyllido twf lleol a darparu sicrwydd am ei ddyfodol.

"Mae Brexit yn rhoi'r cyfle i ni greu economi sy'n gweithio er lles pawb a phob ardal.

"Rydym yn parhau i drafod gyda'r rhanddeiliaid ynglŷn â natur Cronfa Ffyniant a Rennir a byddwn yn ymgynghori yn eang."