Henaint a'r frwydr i ddal i fynd
- Cyhoeddwyd
Mae henaint yn dod inni i gyd, ond wrth i fwy ohonon ni fyw yn hŷn, faint ohonon ni fydd yn gallu dal i fyw yn annibynnol wrth wynebu heriau ein blynyddoedd olaf?
Mae Gruffydd Edwards, ffermwr mynydd 88 oed o'r Ganllwyd ger Dolgellau, yn dweud y byddai'n well ganddo "fynd ar my mhen i'r afon" na gorfod mynd i gartref gofal.
Roedd Gruffydd yn dal i fyw a gweithio ar y fferm deuluol tan yn ddiweddar ac mae'n un o'r bobl sy'n ymddangos yn y rhaglen Drych: Dal i Fynd ar S4C - portread o frwydr tri unigolyn i barhau i fyw'n annibynnol wrth iddyn nhw heneiddio.
Fe gollodd Gruffydd ei wraig, ei frawd a'i chwaer yn 2016 ac mae problemau gyda'i galon wedi golygu bod yn rhaid iddo slofi a rhoi'r gorau i dasgau'r fferm.
Ond heb help ei ferch ieuengaf, Carys, oedd yn dod i'r fferm ato bob dydd i weithio, fe fyddai wedi bod yn amhosib iddo barhau i fyw ar ei delerau ei hun yn ei gartref.
"Dwi ddim yn gweld Dad yn mynd o fan hyn," meddai Carys ar y rhaglen.
"Os 'di dafad yn torri ei chalon 'neith hi ddim byw, Fan hyn mae di cael ei eni, fan hyn ddoth y teulu dros 100 mlynedd yn ôl. Wedyn, mae calon Dad yn fan hyn, yn y ffarm."
Tro ar fyd
Ond yn ystod y ffilmio, aeth Gruffydd yn sâl a threulio wythnosau mewn ysbyty a wynebu'r posibilrwydd na fyddai'n gallu dod adref i fyw ei hun.
Cafodd ddod adre o'r ysbyty yn hytrach na mynd i gartref gofal yn y diwedd, er nad nôl i fferm Tŷ Cerrig, ond i dŷ Carys, dair milltir i ffwrdd yn Llanelltyd.
Flwyddyn wedi'r ffilmio, mae'r rhod wedi troi eto a Gruffydd wedi cryfhau ddigon i Carys allu cymryd tenantiaeth y fferm deuluol a symud nôl i Dŷ Cerrig ei hun lle mae'n rhedeg busnes cynhyrchu mêl.
Mae hi'n dal i fynd i weld ei thad yn Llanelltyd bob dydd.
"Dwi'n picio i fan hyn bron iawn bob dydd, checio, nôl pethau, gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn ond mae cael cymorth yn golygu lot, bod na rywun yn galw i fewn arno fo," meddai.
"Mae o'n ffonio fi bob dydd, fel roedd fy Yncl yn ei wneud pan oedd o'n byw ei hun. A 'run peth efo fy Modryb.
"Mae cael rywun arall ar ben arall y ffôn yn stopio unigrwydd ac mae unigrwydd yn gallu bod yn beryg i bobl sy'n mynd yn hŷn.
"Cyn gynted ag y mae rhywun yn unig, mae rhywun yn hel meddyliau," meddai.
Ond er y baich o ofalu am ei thad, dywed Carys na wnaeth hi erioed ystyried ei roi mewn cartref gofal.
"Wnaeth o erioed groesi fy meddwl, oni'n gwybod y bysa fo'n benderfynol o fod adre," meddai.
"Mae o'n dal yn gweiddi rŵan bod o ddim eisiau'r carers! Ond maen nhw'n gwmpeini iddo fo," meddai.
Bywyd caled
Mae Carys yn priodoli ysbryd benderfynol ei thad i'w fagwraeth galed.
"Roedden nhw'n deulu wedi cael bywyd caled. Yn un o naw o blant, yn helpu ei gilydd allan o hyd ond mae o, bach y nyth, 'di bod yn benderfynol erioed," meddai.
"Mae'n rhaid bod cael bywyd caled wedi ei helpu i fod yn benderfynol o wthio mlaen.
"Mae o'n dueddol o feddwl ei fod o'n mynd i fyw am byth weithiau, ond dyna'r math o positive thinking mae'n rhaid i rywun ei gael - mae hynny'n bwysig," meddai Carys gan nodi bod un o chwiorydd eraill Gruffydd ar fin troi'n 100 oed a chwaer arall wedi byw nes oedd hi'n 102.
Person hynaf y DU
Mae mwy na thair miliwn o bobl dros 75 mlwydd oed yn y Deyrnas Unedig yn byw ar eu pennau eu hunain yn ôl Age UK.
Er bod cartref gofal yn ddewis sy'n siwtio rhai unigolion a theuluoedd dywed cynhyrchydd y rhaglen, Gwion Hallam, fod yr ysfa i frwydro sydd gan y tri yn y rhaglen yn golygu eu bod wedi llwyddo i gadw eu hunaniaeth, er colli eu hiechyd a'u rhyddid i raddau.
Mae'r rhaglen hefyd yn dilyn stori Hywel Francis Richards, sy'n 92 oed ac yn byw yng Nghricieth. Mae ei ferch, y berfformwraig Lowri-Ann Richards, wedi symud yn ôl adref o dde Lloegr i fyw'n agos ato.
Ar adeg y ffilmio, roedd y ddiweddar Maria Heward o Landudno yn 108 mlwydd oed ac yn un o'r bobl hynaf yn y Deyrnas Unedig. Symudodd ei nith Margaret Tüzüner i fyw ati er mwyn iddi allu parhau i fyw'n annibynnol.
"Y peth yn amlwg oedd yn eu clymu nhw oedd fod y tri yn eitha' penderfynol o fod eisiau aros adre," meddai Gwion Hallam a dreuliodd flwyddyn yn eu ffilmio.
"Cyfuniad o bethau oedd yn golygu eu bod nhw wedi gallu aros adre mor hir.
"O ran Gruffydd mae gymaint i wneud gyda'i ysbryd e, ond hefyd y ffaith fod Carys yn fodlon aberthu. A'r un peth gyda Lowri-Ann yn symud o Gaergrawnt i fyw nôl lle doedd hi heb fyw ers pan oedd hi'n ifanc iawn, ac wedyn Margaret yn rhoi ei bywyd hi ar stop mwy neu lai cyn symud i fyw gyda'i anti.
"Falle bod e'n rhywbeth sydd ynddon ni i gyd i ymladd wrth wynebu henaint, ond dwi ddim yn gwybod cweit i'r graddau ag y gwelais i yn y tri yma.
"Beth oni'n gweld yn rhyfeddol yn Gruff oedd bod yn dal gyda fe'r hiwmor yma tan ddiwedd y rhaglen a'r ysfa i beidio defnyddio ffon er enghraifft, er mwyn i'r cyhyrau gael cryfhau ac mae hynny yn wych - mae'r ysbryd dynol i oroesi yn anhygoel - mae rhywbeth elfennol iawn ynddo fe."
Mae Drych: Dal i Fynd ar S4C nos Sul, 14 Ebrill am 21:00
Hefyd o ddiddordeb: