Pro 14: Southern Kings 7-43 Gweilch
- Cyhoeddwyd
![Dan Evans](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/5FDF/production/_106434542_dan.jpg)
Y cefnwr Dan Evans sgoriodd 3 chais i'r Gweilch
Mae'r Gweilch wedi sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws allweddol yn erbyn y Southern Kings.
Sgoriodd yr ymwelwyr y rhan fwyaf o'u pwyntiau mewn hanner cyntaf unochrog, cyn i'r Kings geisio brwydro 'nol yn yr ail hanner.
Roedd 'na gyfanswm o saith cais i'r Gweilch - gyda Dan Evans yn sgorio tri. Sgoriodd Bradley Davies ddwywaith, ac roedd 'na gais yr un i Hanno Dirksen a Cory Allen.
Ar ôl y fuddugoliaeth maen nhw yn bedwerydd yn y tabl ac wedi symud uwchben y Gleision, cyn i dîm y brifddinas wynebu Connacht dydd Sadwrn.
Mae'n ganlyniad sy'n cadw tymor Pro 14 y Gweilch yn fyw, am y tro o leiaf.