Y Gynghrair Genedlaethol: Barnet 1-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth gôl hwyr gan yr eilydd Jermaine McGlashan sicrhau buddugoliaeth 2-1 i Wrecsam yn erbyn Barnet a sicrhau lle yn y gemau ail gyfle yn y Cynghrair Cenedlaethol.
Aeth Wrecsam ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner gyda pheniad gwych gan Akil Wright.
Ond daeth Barnet yn gyfartal gyda pheniad Shaquile Coulthirs, gôl rhif 19 y tymor hwn i'r ymosodwr.
Wrth i Barnet chwilio am y gôl fuddugol, llwyddodd McGlashan i dorri'n rhydd i sgorio ei gôl gyntaf i'r Dreigiau.
Dywedodd rheolwr Wrecsam, Bryan Hughes: "Rydym ond yn meddwl am y gêm nesaf ar hyn o bryd, ond wedyn yn falch ein bod yn bendant yn y gemau ail gyfle."