Arestio gyrrwr 36 oed wedi marwolaeth Blaenafon
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddyn 19 oed farw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ym Mlaenafon ger Pont-y-pŵl.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Farteg am 03:20 fore Sul, 14 Ebrill, yn dilyn adroddiadau am ddamwain rhwng cerddwr a char.
Bu farw'r dyn 19 oed yn y fan a'r lle.
Cafodd dyn 36 oed o Flaenafon ei arestio ar amheuaeth o yrru yn ddiofal ac o fethu ac aros wedi damwain.
Mae'r heddlu'n apelio ar i unrhyw un a welodd unrhyw beth, neu sydd â lluniau oddi ar gamera yn eu cerbyd, i gysylltu â nhw.