Cwest yn cofnodi bod Emily Inglis wedi marw trwy anffawd

  • Cyhoeddwyd
Emily InglisFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Emily Inglis ei darganfod wedi marw yn ei hystafell yn Ward Bryngofal yn Ysbyty'r Tywysog Philip ar 22 Ebrill 2016

Clywodd cwest i farwolaeth dynes 26 oed mewn uned iechyd meddwl yn Llanelli ei bod wedi marw trwy anffawd.

Daeth y rheithgor o wyth i'r casgliad bod Emily Inglis wedi mygu ar Ebrill 22, 2016 yn ei llety personol yn Ysbyty'r Tywysog Philip er gwaethaf ymdrechion i'w hadfywio.

Roedd hi wedi'i chadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl am bum mis.

Clywodd y cwest ei bod yn cael ei hystyried yn risg isel o hunan-anafu, ac felly bod yr ysbyty yn cadw golwg arni bob awr.

Am 21:00 ar 22 Ebrill 2016 yn ystod ymweliad gan staff yr ysbyty cafodd Emily Inglis ei darganfod yn gorwedd ar lawr ei hystafell yn ward Bryngofal.

Oddeutu awr ynghynt roedd hi wedi cael ei gweld yn cerdded o gwmpas ei hystafell ac roedd y llenni ar agor.

'Gofalgar a chariadus'

Dywedodd un nyrs iechyd meddwl wrth y cwest yn Aberdaugleddau ei fod ef a staff eraill wedi cael sgyrsiau â Ms Inglis yn ystod y dydd ac nad oedd neb wedi sylwi ar unrhyw ymddygiad negyddol.

Dywedodd arbenigwr annibynnol ei bod yn dioddef o anhwylder personoliaeth ac ystod gymhleth o anhwylderau eraill gan gynnwys anhwylder gorfodaeth obsesiynol a oedd yn golygu bod ei hwyl yn gallu newid yn sydyn.

Nodwyd hefyd bod ei chyflwr yn gallu ei gwneud yn eithafol o fyrbwyll.

Roedd Ms Inglis, a arferai weithio fel awdiolegydd, wedi ysgrifennu'n agored am ei hafiechyd meddwl yn ystod y misoedd cyn Gorffennaf 2015 pan y cymerodd hi orddos a'i rhuthro i'r ysbyty.

Nododd datganiad ar ran ei theulu ei bod yn "berson gofalgar a chariadus a roddai eraill yn gyntaf".

Dywedodd ei thad Michael mai dim ond drwy ei chofnodion ysgrifenedig y daeth y teulu i lawn sylweddoli gymaint yr oedd hi wedi bod yn dioddef ers yn 14 oed a'i bod wedi cael ei bwlio am flynyddoedd yn yr ysgol.

Wrth gofnodi'r rheithfarn fe wnaeth y crwner Mark Layton gydymdeimlo â'i theulu.