Beirniadu'r heddlu am rybuddio puteiniaid yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
gweithio ar y strydFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu wedi cael eu beirniadu am rybuddio puteiniaid yng nghanol dinas Abertawe y gallan nhw gael eu herlyn.

Dywedodd yr heddlu y gallai gweithwyr rhyw yn Abertawe sy'n "gwrthod ymgysylltu" â gwasanaethau cymorth wynebu gweithredu.

Ond dywedodd elusen i fenywod y gallai hyn atal menywod rhag cydweithredu â phrosiect sy'n cynnig cymorth.

Ymatebodd Heddlu De Cymru drwy ddweud mai'r "rhai sy'n manteisio ar weithwyr rhyw yw ein ffocws o hyd".

Dywedodd Cymorth i Fenywod Abertawe eu bod yn "bryderus iawn" y byddai gweithredu llym gan yr heddlu yn atal gweithwyr rhyw rhag ymgysylltu â'u prosiect cefnogi.

Mae prosiect SWAN - sy'n cael ei redeg gan yr elusen, Tîm Plismona Bro Abertawe a'i bartneriaid - yn ceisio dargyfeirio menywod o waith rhyw a darparu cefnogaeth.

Yn ôl y datganiad, mae gweithred yr heddlu yn mynd yn groes i amddiffyn pobl o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Dywedodd Lynne Sanders, prif weithredwr Cymorth i Fenywod Abertawe, fod yr elusen yn ymdrechu i gael "ymgysylltiad ystyrlon â'r holl fenywod rydym yn gweithio gyda nhw".

"Nid yr ateb i atal cam-drin menywod yw trwy eu cosbi - ond trwy ddal y cam-drinwyr i gyfrif," ychwanegodd.

'Y rhai sy'n manteisio yn ganolbwynt'

Mae Ymgyrch Jaeger yr heddlu yn targedu dynion a menywod sy'n cymryd rhan mewn gwaith rhyw, a'r rhai sy'n manteisio ar y rhai sy'n gwerthu rhyw yn yr ardal.

Dywedodd Heddlu De Cymru y byddai'r rhai a fyddai'n cael eu dal yn cael eu gwahardd o le ar adeg benodol.

Dywedodd y llu y gallai "cyrchwyr", pobl sy'n dod i'r ardal i dalu gweithwyr rhyw am eu gwasanaethau, hefyd ddisgwyl "ystod o gamau gorfodi".

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Cath Larkman: "Mae'r rhai sy'n manteisio ar weithwyr rhyw yn parhau i fod yn ganolbwynt i ni, fodd bynnag mae'n amlwg nad yw'n dderbyniol i aelodau o'n cymuned osgoi unrhyw faes penodol rhag ofn.

"Nid yw ychwaith yn dderbyniol i weithredoedd rhyw gael eu cyflawni'n gyhoeddus.

"Mae gennym ddyletswydd gofal i amddiffyn yr holl gymuned yn y ddinas ac yn arbennig y preswylwyr mewn ardaloedd lle mae gweithwyr rhyw yn weithgar.

"Mewn achosion lle mae gweithwyr rhyw yn gwrthod mynd i'r afael â'r ystod eang o gymorth sydd ar gael yn barhaus ac yn torri'r gyfraith, un opsiwn y byddwn yn ei ystyried yw gorfodaeth."