Pam fod dyddiad y Pasg yn newid?

  • Cyhoeddwyd

Y llynedd roedd Dydd Sul y Pasg yn disgyn ar 1 Ebrill. Yn 2017, 16 Ebrill oedd y dyddiad, ac yn 2016 ar 27 Mawrth oedd y dathliadau.

Felly mae'r dyddiadau'r ŵyl Gristnogol yn gallu newid dipyn o flwyddyn i flwyddyn. Ond pam?

Mae Cymru Fyw am geisio egluro hynny a chynnig cyngor amserol ynglŷn â phryd mae'n iawn i fwyta wyau Pasg...

Dilyn y lleuad

Mae pennu dyddiad Sul y Pasg yn syml mewn gwirionedd, er bod y dyddiad yn newid yn flynyddol.

Mae calendr yr eglwys yn dilyn y lleuad, ac mae dyddiad Sul y Pasg yn dibynnu ar safle'r lleuad pan ddaw cyhydnos y gwanwyn (spring equinox), sef 21 Mawrth yng nghalendr yr eglwys.

Ar ddiwrnod y cyhydnos mae nifer oriau'r dydd a'r nos yn gyfartal ac, wrth gwrs, mae dau bob blwyddyn: un yn y gwanwyn (mis Mawrth) ac un yn yr hydref (mis Medi).

Mae 'na leuad llawn bob 28 diwrnod. Bydd Sul y Pasg ar y Sul sy'n dilyn y lleuad llawn cyntaf ar ôl cyhydnos y gwanwyn.

Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Machlud yr 'Alban Eilir' (cyhydnos y gwanwyn) yn Aberystwyth - diwrnod cyntaf y gwanwyn

Rhy hwyr? Rhy gynnar?

Felly, 22 Mawrth yw'r dyddiad cynharaf posib ar gyfer Sul y Pasg (gan gymryd bod 'na leuad llawn wedi bod ar 21 Mawrth).

25 Ebrill yw'r dyddiad hwyraf ar gyfer Sul y Pasg.

Yn y blynyddoedd diwetha', y Pasg cynharaf i ni ei gael oedd nôl yn 2008. Fe syrthiodd Sul y Pasg ar 23 Mawrth y flwyddyn honno.

Does 'na'r un ohonom ni wedi byw i weld Pasg sy'n gynharach na hynny.

1818 oedd y tro diwethaf i Sul y Pasg fod mor gynnar â 22 Mawrth. Fydd hynny ddim yn digwydd eto tan y flwyddyn 2285!

Efallai bod rhai o'n darllenwyr yn cofio Sul y Pasg 1943. Hwn oedd y tro diwethaf i'r Pasg fod ar ei hwyraf, sef 25 Ebrill. Y tro nesaf fydd ymhen 20 mlynedd, yn 2038.

Roedd 'na lot o wy-bodaeth i'w chymryd i mewn yn doedd? Beth am droi felly at yr wyau...

Disgrifiad o’r llun,

'Dyn ni'n cymryd yn ganiataol na fydd eich wy Pasg chi mor fawr â hwn, dorrodd record y byd

Y geni newydd

Mae nifer yn credu fod wyau wedi cael eu mabwysiadu gan Gristnogaeth o hen ddefodau paganaidd y gorffennol. Bryd hynny roedd bywyd newydd y gwanwyn yn cael ei ddathlu a'i addoli wedi caledi'r gaeaf. Felly, roedd wyau'n symbol o'r geni newydd.

Oherwydd symbolaeth yr wyau, penderfynodd arweinwyr eglwysig nad oedd hawl gan bobl i fwyta wyau yn ystod y Grawys, sef y deugain diwrnod rhwng Dydd Mawrth Ynyd (diwrnod crempog) a Sul y Pasg.

Wrth reswm, doedd yr ieir ddim yn gwybod hyn ac yn parhau i ddodwy, ac felly byddai wyau'r cyfnod yma'n cael eu cadw a'u haddurno ar gyfer eu bwyta ar Sul y Pasg.

Daeth wyau siocled yn boblogaidd adeg Oes Fictoria. Yn ôl rhai, datblygodd yr arfer o greu wyau heb ganol fel symbol o fedd gwag Crist... er bod y rhai mwy sinigaidd yn ein plith yn credu mai ymagis i arbed siocled oedd hon. Penderfynwch chi!

Hefyd o ddiddordeb: