Galw am arwydd o undod wedi tân Notre Dame
- Cyhoeddwyd
Mae Archesgob Cymru wedi annog holl eglwysi a chadeirlannau Cymru i ganu eu clychau am saith munud am 19:00 nos Iau fel arwydd o undod gyda phobl Ffrainc.
Mae'n arwydd o dristwch hefyd yn dilyn y tân a achosodd ddifrod helaeth i gadeirlan Notre Dame ym Mharis nos Lun.
Daw galwad yr Archesgob John Davies yn dilyn galwadau tebyg gan Archesgobion Caergaint ac Efrog.
Dywedodd y Parchedicaf John Davies: "Am genedlaethau, mae canu clychau wedi bod yn arwydd o alaru am rywun annwyl, ac er mai adeilad yw Notre Dame mae yna deimlad ei bod yn rhan hanfodol o guriad calon Paris."
Ychwanegodd: "Mae'r dinistr a'r difrod i'r safle sanctaidd ac eiconig yma felly yn rhywbeth y mae'n teimlo'n iawn i alaru amdano.
"Drwy wneud hynny fe fyddwn hefyd yn mynegi ein gobaith y bydd adeilad wedi'i adnewyddu yn codi o'r lludw - adeilad fydd yn addas i'w bwrpas, sef lledaenu newyddion da Crist i'r byd."
Roedd canu clychau'r holl eglwysi a chadeirlannau yn syniad a awgrymwyd gan lysgennad Prydain i Ffrainc, Edward Llewellyn.
Y gobaith yw y bydd llawer iawn o eglwysi Cymru yn rhan o'r digwyddiad.
Mae Cadeirlan Tyddewi a Chadeirlan Aberhonddu eisoes wedi dweud y byddan nhw'n cymryd rhan.