Tirlithriad Cwmduad: Ffordd i ailagor ym Mehefin

  • Cyhoeddwyd
Corey SharpingFfynhonnell y llun, Llun y teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Corey Sharpling, 21, yn y digwyddiad y llynedd

Mae disgwyl i ffordd gafodd ei chau yn dilyn tirlithriad angheuol yn Sir Gaerfyrddin ailagor yn gyfan gwbl ym mis Mehefin.

Cafodd rhan o'r A484 yng Nghwmduad ei hailagor ym mis Mawrth yn dilyn gwaith clirio a diogelu, ar ôl y tirlithriad yn ystod Storm Callum ym mis Hydref y llynedd.

Bu farw Corey Sharpling, 21 oed o Gastellnewydd Emlyn, ar ôl iddo ddod allan o fws pan wnaeth coeden syrthio ar draws y ffordd.

Mae disgwyl i'r ffordd ailagor ar 7 Mehefin.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y tirlithriad yn ystod Storm Callum y llynedd

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym yn deall bod hyn wedi cael effaith fawr ar y gymuned leol a'r rhai sy'n defnyddio'r ffordd, a hoffem ddiolch iddynt am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i'r gwaith adfer ac atgyweirio gael ei wneud.

"Mae'r gwaith hwn wedi bod yn gymhleth iawn, y bu nifer o asiantaethau ynghlwm ag ef ac mae diogelwch y cyhoedd wedi bod yn hollbwysig.

"Gallwn eich sicrhau bod y gwaith yn parhau ac y bydd yn dod i ben cyn hir."