Neges y Pasg yn cyfeirio at 'ansicrwydd gwleidyddol'

  • Cyhoeddwyd
Archesgob Cymru, John Davies
Disgrifiad o’r llun,

Archesgob Cymru, John Davies

Mae Archesgob Cymru wedi cyfeirio at yr hinsawdd wleidyddol heriol sy'n bodoli ar hyn o bryd yn ei neges ar Sul y Pasg.

Fe wnaeth John Davies gymharu'r sefyllfa wleidyddol bresennol gyda'r sefyllfa yn Jerwsalem adeg marwolaeth Iesu Grist.

Ond fe ddywedodd y dylai pobl wneud ymdrech i fod yn dda i eraill a cheisio gwella'r byd.

Yn ei neges flynyddol, fe ddywedodd y dylai pobl "barchu safbwyntiau pobl eraill" mewn cyfnod o "ansicrwydd gwleidyddol".

Ychwanegodd y dylai bobl droi eu sylw at bobl anghenus.

"Mae 'na bethau [ar wahân i wleidyddiaeth] ar agenda'r wlad - materion o bwys," meddai.

"Rwy'n gobeithio, mewn cyfnod o ddathlu bywyd newydd, ein bod ni'n gallu rhoi bywyd newydd i'r rheini sydd wir ei angen."

Yn ddiweddarach ddydd Sul dywedodd yr Archesgob bod y ffrwydriadau sydd wedi lladd dros 200 yn Sri Lanka yn ymosodiad "barbaraidd".

"Dwi'n condemnio," meddai,"y rhai a gynllwyniodd ac a fu'n gyfrifol am weithredu ymosodiadau o'r fath."