Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 0-2 Lerpwl

  • Cyhoeddwyd
Lerpwl yn dathluFfynhonnell y llun, Mike Hewitt
Disgrifiad o’r llun,

Lerpwl yn dathlu gôl agoriadol Georginio Wijnaldum

Roedd Lerpwl yn rhy gryf i Gaerdydd brynhawn Sul, wrth i'r Adar Gleision golli gartref o ddwy gôl i ddim.

Ar ddiwrnod braf yn y brifddinas, di-sgôr oedd hi ar yr egwyl gyda Chaerdydd yn amddiffyn yn gadarn ac yn cael cyfleoedd eu hunain yn yr hanner cyntaf.

Ond wedi 10 munud o'r ail hanner, roedd yr ymwelwyr ar y blaen.

Gyda Lerpwl yn paratoi cic gornel, fe lwyddodd Georginio Wijnaldum i ganfod gwagle yn y cwrt cosbi cyn taro hanner foli i gefn y rhwyd.

Fe fethodd capten yr Adar Gleision, Sean Morrison, gyfle euraid i unioni'r sgôr yn fuan wedyn wedi iddo fethu peniad o gic gornel.

I wneud pethau'n waeth, fe ildiodd Morrison gic o'r smotyn am afael yn Mo Salah yn y bocs, ac fe rwydodd James Milner o'r smotyn i roi'r gêm y tu hwnt i afael Caerdydd.

Mae'r canlyniad yn codi Lerpwl i frig y gynghrair, ac yn gadael Caerdydd yn safle'r cwymp - tri phwynt o ddiogelwch.